Effaith newid yn yr hinsawdd ar allu marmotiaid i oroesi yn gwahaniaethu rhwng tymhorau
Mae llawer o anifeiliaid wedi esblygu cylch bywyd a strategaethau (patrymau goroesi ac atgenhedlu) yn unol ag amrywiaeth a ragwelir rhwng y tymhorau mewn amodau amgylcheddol. Mae hafau byr a mwyn yn cynhyrchu cyfnodau toreithiog o lystyfiant a bwyd, sef yr amser perffaith i roi genedigaeth i'r ifanc. Mae gaeafau hir a garw pan fo bwyd yn brin wedi gwneud anifeiliaid i ddibynnu'n helaeth ar gadw braster wrth gefn i gael egni, ac mewn achosion eithafol, i aeafgysgu neu fudo.
Fodd bynnag, mae newid yn yr hinsawdd yn newid yr amodau tymhorol hyn y mae llawer o rywogaethau wedi'u haddasu iddynt. Mae'r tymheredd yn codi, llai o eira yn y gaeaf, eira'n toddi ynghynt, hafau'n ymestyn, a digwyddiadau eithafol yn digwydd yn amlach (e.e. sychder, llifogydd).
Gwelodd astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y Proceedings of the National Academy of Sciences USA (6 Gorffennaf 2020) fod newid yn yr hinsawdd yn effeithio'n wahanol ar oroesiad marmotiaid yn ystod tymhorau'r haf a'r gaeaf ().
Cynhaliwyd yr ymchwil yn Labordy Biolegol Rocky Mountain yn Colorado ac o'i amgylch, gan ddadansoddi 40 mlynedd o ddata hanes bywyd i ddeall sut mae marmotiaid torfelyn (gwiwerod mawr sy'n tyllu yn y ddaear) wedi ymateb i newid yn yr hinsawdd yn ystod eu tymor egn茂ol yn yr haf a'u cyfnod hir o aeafgysgu.
Meddai Dr. Line Cordes, yr awdur arweiniol o Ysgol Gwyddorau'r Eigion ym Mhrifysgol Bangor:
鈥淢ae marmotiaid torfelyn yn rhywogaeth allweddol i ddatgymalu effeithiau tymhorol newid yn yr hinsawdd gan fod ganddynt fywydau tymhorol penodol iawn. Maent i'w gweld yng ngorllewin Gogledd America lle mae newid yn yr hinsawdd yn fwy amlwg nag unrhyw le arall ar y cyfandir (ac eithrio'r Arctig). Er eu bod yn gnofilod mawr (gallant bwyso hyd at 6.5 kg), maent yn rhy fach i fod yn egn茂ol drwy'r gaeaf ac felly maent yn gaeafgysgu am oddeutu 8 mis. Mae marmotiaid yn dibynnu ar y storfeydd o egni a gesglir ganddynt yn ystod yr haf, ac ar amodau arbennig i aros mewn cysgadrwydd dwfn fel nad ydynt yn defnyddio llawer o egni. Er bod gaeafgysgu yn strategaeth oroesi effeithiol mewn amgylcheddau garw, gall marmotiaid golli hyd at 40% o bwysau eu corff.鈥
Dros bedwar degawd (1979-2018), roedd gallu'r marmotiaid i oroesi yn cynyddu'n gyffredinol yn ystod yr haf ond roedd yn gostwng yn ystod y gaeaf, ac roedd yr effeithiau hyn i'w gweld fwyaf ymysg y rhai bach a'r rhai blwydd oed.
Mae newid yn yr hinsawdd ar safle'r astudiaeth wedi arwain at aeafau cynhesach gyda llai o eira, a hafau cynhesach a sychach sy'n para llawer hirach. Er bod tueddiadau goroesi tymhorol tebyg rhwng y rhai bach, y rhai blwydd oed a'r oedolion, roedd y ffactorau amgylcheddol sy'n gyrru'r tueddiadau hyn yn gwahaniaethu o ran dosbarthiad oedran a thymhorau. Er enghraifft, roedd mwy o rai bach yn goroesi yn yr haf ar 么l gaeafau gyda llai o eira, efallai oherwydd bod y mamau mewn cyflwr gwell yn ystod beichiogrwydd ac wrth ofalu am y rhai bach gan fod y planhigion maent yn eu bwyta yn ymddangos yn gynt wrth i'r eira doddi'n gynharach. Roedd llai yn goroesi'r gaeaf ar 么l hafau hir a sych, yn fwy na thebyg oherwydd bod y rhai bach ddim mewn cyflwr cystal wrth ddechrau gaeafgysgu.
Dywedodd Dr. Arpat Ozgul, uwch awdur yr astudiaeth yn Adran Bioleg Esblygiadol ac Astudiaethau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Zurich: 鈥淢ae effeithiau newid yn yr hinsawdd ar dynged poblogaeth yn cael eu pennu gan ryngweithio cymhleth unigolion 芒'u hamgylchedd biolegol a ffisegol. Mae ein hastudiaeth yn dangos bod rhaid i ni nodweddu'r rhyngweithiadau cymhleth hyn yn gywir er mwyn rhagfynegi effaith newid yn yr hinsawdd yn y pen draw ar dynged poblogaeth. Yn hollbwysig, mae ein canfyddiadau yn tynnu sylw at yr angen i fod yn ofalus wrth ddod i gasgliadau am ymatebion goroesi blynyddol i newid yn yr hinsawdd, oherwydd gall hyn fod yn gamddehongliad, yn symleiddio neu hyd yn oed tanamcangyfrif yr ymatebion mwy cymhleth a all wahaniaethu'n fawr rhwng gwahanol adegau o'r flwyddyn."
Hyd yma mae newid yn yr hinsawdd wedi cael effaith gadarnhaol ar oroesiad marmotiaid yn ystod misoedd yr haf ond yn eu gwneud yn fwy agored i niwed pan maent yn gaeafgysgu. Yn gyffredinol, roedd y newid net mewn goroesi yn negyddol i'r rhai bach, yn bositif i'r rhai blwydd oed, a dim newid i'r oedolion. Mae'n bwysig nodi y gall newid parhaus yn yr hinsawdd newid y patrymau a welsom mewn goroesi yn yr haf, gan y byddai hafau cynhesach a sychach yn effeithio ar ddygnwch y planhigion maent yn eu bwyta. Yn wir, nid oes unrhyw farmotiaid i'w gweld mewn cynefinoedd sy'n gynnes ac yn sych drwy'r amser.
Mae'r ffaith y gall newid yn yr hinsawdd fod o fudd i rai rhywogaethau yn ystod un tymor tra'n arwain at amodau anffafriol yn ystod tymor arall, olygu canlyniadau eang ar draws rywogaethau eraill sy'n byw mewn cynefinoedd tymherus a mwy eithafol, fel yr anialwch, mynyddoedd a rhanbarthau pegynol, lle rydym yn gweld y newidiadau cyflymaf yn yr hinsawdd. I fywyd gwyllt sy'n byw ger y pegynau neu gopaon mynyddoedd, fel y marmotiaid, nid oes unman iddynt fynd pan fydd yr amodau amgylcheddol yn mynd yn llai addas.
Ychwanegodd Dr. Line Cordes: 鈥淢ae mamaliaid cymdeithasol, tyrchol, llysysol, fel marmotiaid, yn chwarae rhan bwysig yn swyddogaeth yr ecosystem gan eu bod yn helpu i ffurfio cynefinoedd pwysig, ac yn ysglyfaeth i lawer o ysglyfaethwyr. Byddai colli'r rhywogaethau hyn neu ddirywiad ynddynt yn debygol o gael goblygiadau ehangach i fioamrywiaeth cynefinoedd mynyddig.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 7 Gorffennaf 2020