Effaith Newid Hinsawdd ar Fwnc茂od
Mae gr诺p o ymchwilwyr Prifysgol Bangor newydd ddarfod astudiaeth yn ymchwilio effaith newid hinsawdd ar fwnc茂od.
Dr Isabelle Winder sydd yn darlithio mewn S诺oleg a Primatoleg ym Mangor yw un o鈥檙 ymchwilwyr ac mae鈥檔 dweud fod newid hinsawdd yn fater pwysig iawn sy鈥檔 wynebu byd natur. Dywedodd,
鈥淢ae鈥檙 ddynol ryw yn cael dylanwad enfawr ar y byd naturiol. Ni yw鈥檙 grym cryfaf sy鈥檔 effeithio ein planed. Rydym yn tueddu i feddwl bod rhai anifeiliaid yn ddigon cryf i wrthsefyll ac i addasu i鈥檙 newidiadau y mae dyn yn ei wneud i鈥檞 hamgylchfyd. Mae llawer iawn o fwnc茂od yn dod mewn i鈥檙 categori hwnnw ac mi fuasai rhywun yn meddwl y byddai bab诺ns yn un o鈥檙 rhywogaethau hynny a fyddai鈥檔 iawn. Penderfynodd fy myfyrwyr a finnau i drio dod o hyd i鈥檙 gwir gan ein bod yn meddwl fod bab诺ns yn cynnig astudiaeth ddiddorol. Os yw effeithiau newid hinsawdd yn anodd eu rhagdybio efallai ei fod yn syniad cychwyn efo rhywogaeth yr ydych chi鈥檔 meddwl byddai鈥檔 iawn a gweld be sy鈥檔 digwydd. Felly mi wnaethom waith i fodelu effaith newid hinsawdd ar chwe rhywogaeth wahanol o鈥檙 bab诺n a鈥檙 hyn a ddarganfuwyd oedd bod yr effaith yn amrywio o un rhywogaeth i鈥檙 llall.鈥
O dan oruchwyliaeth Isabelle, cwblhaodd Sarah Hill yr ymchwil newydd fel rhan o radd Feistr MZool mewn S诺oleg gydag Ymddygiad Anifeiliaid. Roedd Sarah yn asesu ble y gallai鈥檙 bab诺ns fyw mewn deuddeg sefyllfa newid hinsawdd wahanol ar gyfer pob bab诺n. Darganfuwyd y byddai tri o鈥檙 chwe rhywogaeth yn wynebu perygl.
Eglurodd Sarah ei chanfyddiad:
鈥淓drychom ni ar be fyddai鈥檔 digwydd pe bai鈥檙 tymheredd yn codi 2.6 gradd a 6 gradd dan amodau gwlypach a sychach ac roedd y canlyniadau yn eithaf rhyfeddol. Roedd y Chacma neu鈥檙 Bab诺n Mynydd o Dde Affrica mewn perygl pa bynnag sefyllfa newid hinsawdd yr oedden nhw ynddo 鈥 roedd eu poblogaeth yn disgyn gan eu bod yn colli oddeutu 25% o鈥檌 tir. Mae鈥檙 bab诺n Guinea mewn perygl penodol os yw newid hinsawdd yn dod a crasdir parhaol, a ni fydd y bab诺n Kinda yn gwneud yn dda iawn mewn unrhyw senario hinsawdd y dyfodol ond dan fygythiad arbennig os yw鈥檙 tywydd yn mynd yn gynhesach neu wlypach. Roedd dwy rywogaeth yn edrych fel tasant yn gallu ehangu ac un arall ddim yn cael ei heffeithio gan niwed mewn hinsawdd.鈥
Mae astudio gradd Feistr (ar fwnc茂od a rhywogaethau eraill sydd yn fregus i newidiadau amgylcheddol sy鈥檔 cael eu creu gan ddyn) yn un o nifer o gyfleoedd i astudio鈥檙 effaith o newid hinsawdd fel rhan o鈥檆h astudiaethau yng ngraddau Bioleg, S诺oleg a Gwyddorau鈥檙 Amgylchedd ym Mangor. Dywed Dr Isabelle Winder ei fod yn bwnc y dylid pobl ifanc fynd i鈥檙 afael ag o. Ychwanegodd,
鈥淢ae pobl ifanc sydd yn dod trwy鈥檙 system addysg ar hyn o bryd yn medru cychwyn gwneud rhywbeth am newid hinsawdd. Rydym yn dechrau dod i ddeall a datblygu鈥檙 wyddoniaeth, y gwyddorau cymdeithasol, y syniadau economaidd a鈥檙 syniadau gwleidyddol i fedru gwneud rhywbeth yn ei gylch o鈥檙 lefel lleol i fyny i鈥檙 lefel fyd eang felly mae鈥檔 rheswm hynod bwysig pam y dylai pobl ifanc heddiw fod yn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 pwnc. Rydym wedi cyrraedd pwynt lle fedrwn ni gychwyn newid pethau fel unigolion ac fel un鈥 hynny yn awr!鈥
Gwyliwch y fideo llawn o鈥檙 Athro Isabelle Winder yn siarad am Newid Hinsawdd
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2019