Dod â lleisiau o goedwig law Madagascar i ganol y ddadl ryngwladol ynghylch y newid yn yr hinsawdd
Mae nifer o gyfarfodydd rhyngwladol eleni, a fydd, ymhlith llawer o bethau eraill, yn sefydlu mecanweithiau i warchod ac adfer coedwigoedd trofannol am y degawdau nesaf. Mae coedwigoedd trofannol yn storio carbon ac o’r herwydd mae eu gwarchod yn Ddatrysiad sy’n Seiliedig ar Natur i fater y newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, er mwyn gwarchod y coedwigoedd yn effeithiol, ac yn ei hanfod er mwyn gwarchod rhag cyfrannu at dlodi mewn gwledydd tlotach, rhaid gwneud mwy o ymdrech i gynnwys y bobl sy'n byw yn y coedwigoedd hynny. Yn anffodus, yn anaml iawn y clywir eu lleisiau yn y trafodaethau polisi rhyngwladol.
Mae’r ffilm, '”, yn ceisio newid hynny trwy ddod â lleisiau a safbwyntiau’r rhai y mae cadwraeth y coedwigoedd yn effeithio arnynt, i galon y ddadl ynghylch y polisi ryngwladol. Fe’i gwnaed gan ymchwilwyr o Brifysgol Antananarivo a Phrifysgol Bangor, pobl sy’n byw ar ffin y goedwig ym Madagascar, a gwneuthurwyr ffilmiau ifanc o Malagasi, ac mae’n archwilio profiad y bobl leol o ymdrechion byd-eang i warchod y coedwigoedd. Y nod yw mynd y tu hwnt i stori or-syml sy'n cymryd yn ganiataol bod cadwraeth ac adfer coedwigoedd hefyd yn lleihau tlodi.
Caiff y ffilm ei lansio ar-lein ar 1 Hydref mewn digwyddiad ar-lein a fydd yn cynnwys trafodaeth banel arbenigol o dan gadeiryddiaeth Tom Heap o “Countryfile” y BBC a “39 Ways to Save the Planet”. Bydd cyflwyniad gan Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy Madagascar. Bydd y panel yn canolbwyntio ar ddatrysiadau i sicrhau bod cadwraeth ac adfer coedwigoedd yn effeithiol ac yn deg a wnaiff gyfrannu at y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.
Cafodd rhagflas o’r ffilm ei ddangos yn ddiweddar ar lwyfan sesiwn lawn o Gyngres Cadwraeth y Byd ym Marseille ac mae cynlluniau i’w dangos yn COP26 yn Glasgow.
Dywedodd Julia P G Jones, athro’r gwyddorau cadwraeth ym Mhrifysgol Bangor a fu’n ymwneud â gwneud y ffilm:
“Gyda fy nghydweithwyr ym Malagasi bûm yn gwneud ymchwil am am nifer o flynyddoedd. Cyhoeddasom ond pwy sy'n darllen cyfnodolion? Mae'r prosiect yn hynod foddhaol oherwydd gall pobl uniaethu cymaint yn fwy â ffilm, gyda straeon gafaelgar, nag ymchwil academaidd sych.”
Dywedodd Dr Sarobidy Rakotonarivo o Brifysgol Antananarivo a fu’n arwain y prosiect ym Madagascar:
“Mae gan gadwraeth ac adfer coedwigoedd gyfraniad pwysig iawn i’w wneud yn y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn sicrhau na wnaiff polisïau cadwraeth effeithio'n negyddol ar bobl dlawd mewn gwledydd fel Madagascar. Yn anffodus yn aml nid yw'r rhai sy'n llunio'r polisïau’n deall sut mae pethau ar lawr gwlad, ac felly mae angen llais gwirioneddol ar y bobl leol yn y trafodaethau”.
Dywedodd Tom Heap a fydd yn cadeirio trafodaeth y panel yn y lansiad:
“Yn ddiweddar bûm yn archwilio gwahanol ddulliau o fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd i raglen sydd gen i ar BBC Radio 4 ‘39 Ways to Save the Planet’. Mae cadwraeth ac adfer coedwigoedd yn amlwg yn bwysig ond nid yw'n fater syml. Rwy’n edrych ymlaen at drafod taer yn y digwyddiad a gobeithio y daw rhai atebion i’r amlwg.”
Yn ddiweddar, aeth tîm Malagasi’n ôl i un o'r pentrefi lle buont yn gweithio i ddangos y ffilm a lluniau o'r trelar yn cael eu taflunio ar brif lwyfan Cyngres Cadwraeth y Byd. Dywedodd Mirindra Rakotoarisoa, a fu’n ymwneud â gwneud y ffilm “Roedd yn hyfryd rhannu ein ffilm o’r diwedd gyda’r bobl y mae’n anelu at eu cynrychioli. Roeddent wrth eu boddau â’r ffilm. Teimlent ei bod yn cyfleu’r heriau sy'n eu hwynebu ar lawr gwlad. Yn sicr nid oes llawer o'r bobl y gwnaethom eu cyfweld yn gwrthwynebu cadwraeth coedwigoedd ac maent yn gwerthfawrogi'r goedwig yn fawr. Fodd bynnag, gall polisïau cadwraeth fod yn niweidiol i’r bobl os na chânt eu cynllunio i'w cynnwys yn iawn.”
Mae'r ffilm yn cynnwys cerddoriaeth gan yr artist Malagasi adnabyddus D'Gary a chlywir llais yr amgylcheddwr Hanitra
Cewch gofrestru am ddim ar gyfer lansiad y ffilm ar-lein a thrafodaeth y panel (1 Hydref am 13:00) yma:
Dyddiad cyhoeddi: 24 Medi 2021