Darganfod micro-organebau eithafol newydd mewn llyn soda yn Siberia
Yr Athro Peter Golyshin o'r Ysgol Gwyddorau Biolegol, ac arbenigwr mewn genomeg amgylcheddol micro-organebau yw'r unig awdur o'r DU a chyfranogwr ymchwil sydd wedi darganfod dosbarth newydd o ficro-organebau (archaea) sy'n byw mewn amgylchedd eithafol yn llyn soda alcalïaidd yn Siberia. Mae'r darganfyddiad hwn yn torri tir newydd oherwydd gall y micro-organebau hyn drawsnewid deunydd organig yn uniongyrchol i fethan o dan amodau eithafol o'r fath.
Cyhoeddir y papur heddiw (26.5.17) yn .
Mae’r Athro Golyshin yn egluro: "Mae microbau, sy'n cynhyrchu methan, sef nwy tŷ gwydr pwysig, yn doreithiog ar ein planed. Tan y darganfyddiad hwn, ni chredwyd eu bod yn bodoli mewn amgylcheddau eithafol sydd â llawer o halen. Fodd bynnag, yn yr astudiaeth hon, rydym wedi datgelu dosbarth newydd o archaea, sy'n wahanol iawn i fethanogenau clasurol, ac maent yn gallu cynhyrchu methan mewn amgylchiadau lle mae alcalinedd uchel, halen uchel a thymheredd uchel. Mae'r astudiaeth wedi ehangu ein gwybodaeth am yr ystod o amgylcheddau lle gellir cynhyrchu methan, ac wedi newid ein barn am darddiad ac esblygiad mecanweithiau methanogenesis."
Yn ôl yr awduron, gall yr organebau hyn sydd newydd eu darganfod chwarae rhan mewn cynhyrchu methan o wastraff organig yn y dyfodol. Y fantais fawr yw bod CO2 yn parhau yn yr hydoddiant ar pH uchel. Felly, gellir cynhyrchu nwy methan, yn hytrach na bionwy, sy'n cynnwys methan yn ogystal â CO2 yn bennaf. Ar hyn o bryd, mae dal angen uwchraddio bionwy i ansawdd nwy naturiol, er mwyn bod yn addas i'w ddefnyddio mewn rhwydweithiau nwy. Byddai osgoi'r broses uwchraddio hon yn arbed llawer o ynni.
Cyfraniad yr Athro Golyshin oedd dadansoddi genomau'r organebau newydd hyn a mynegiad y llwybrau ar gyfer methanogenesis sy'n defnyddio'r proteomeg.
Mae'r cyhoeddiad yn Nature Microbioleg yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Technoleg Delft (Yr Iseldiroedd), y Sefydliad Microbioleg Winogradsky yn Academi Gwyddorau Rwsia ym Moscow (Rwsia), y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Gwybodaeth Biodechnoleg, Sefydliadau Cenedlaethol Iechyd, Bethesda (UDA ), Sefydliad Catalysis, CSIC, a'r Centro Nacional de BiotecnologÃa, Madrid (Sbaen), Prifysgol Bangor (DU) a'r Rheinische Friedrich-Wilhelms Universität, Bonn (yr Almaen).
Teitl y papur yw 'Discovery of extremely halophilic, methyl-reducing euryarchaea provides insights into the evolutionary origin of methanogenesis'.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Mai 2017