Conwydden brin yn hadu am y tro cyntaf yng Nghymru
Mae conwydden brin o Awstralia sydd yn tyfu yng Ngardd Fotaneg Treborth, ym Mhrifysgol Bangor, wedi hadu efallai am y tro cyntaf yng Nghymru a dim ond yr eildro yn y Deyrnas Unedig.
Can coeden yn unig o鈥檙 pinwydd Wollemi (Wollemia nobilis) sydd yn tyfu yn ei lleoliad cynhenid mewn canion yn Awstralia. Dim ond yn 1994 y daethpwyd o hyd i鈥檙 gonwydden.
Mewn ymgais i achub y rhywogaeth anarferol hon, mae gwyddonwyr yn Awstralia wedi tyfu coed o doriadau. Un o鈥檙 rhain a gafodd ei phlannu yng Ngardd Fotaneg Treborth, gan y naturiaethwr a Chymrawd er Anrhydedd Prifysgol Bangor, Iolo Williams. Dywedodd Iolo Williams ei fod 鈥渨rth ei fodd yn clywed yn newyddion鈥.
鈥淢ae鈥檙 ffaith bod y gonwydden wedi hadu am y tro cyntaf yn ein Gardd Fotaneg yn newyddion gwych i gadwraethwyr oherwydd mae鈥檔 dangos y gall y goeden hon dyfu ar wahanol ledredau ac mewn amodau hinsawdd gwahanol ar draws y byd. Mae鈥檙 ffaith bod y goeden wedi llwyddo i hadu yma yn cyfrannu at ei goroesiad at y dyfodol ac at ein dealltwriaeth o'i hamodau tyfu" eglura Curadur Gardd Fotaneg Treborth, Nigel Brown.
鈥淢ae鈥檙 goeden hon wedi goroesi tymheredd o 7 gradd o dan y rhewbwynt yn ystod y ddau aeaf diwethaf, ac er gwaethaf hynny mae wedi llwyddo i hadu. Byddwn yn plannu'r hadau hynny鈥檔 awr yn yr Ardd Fotaneg.
Ffeithiau am Wollemi
1. Mae Wollemia nobilis yn gonwydden ond nid yw鈥檔 binwydden - mae鈥檔 perthyn i鈥檙 teulu Araucariaceae, gr诺p o gonwydd o Hemisffer y De y gwelwyd yr amrywiaeth mwyaf ohonynt yn ystod y Cyfnodau Jwrasig a Chretasig, 200-65 miliwn o flynyddoedd yn 么l.
2. Erbyn hyn mae鈥檔 byw, hyd y gwyddys, mewn un rhan anghysbell o Barc Cenedlaethol Wollemi, 500,000 o hectarau o dir gwyllt yn New South Wales, Awstralia, rhan o Ardal Dreftadaeth y Byd y Greater Blue Mountains. Saif y coed yng nghanol fforestydd glaw tymherus mewn ceunentydd tywodfaen dwfn. Cadwyd y lleoliad yn gyfrinach.
3. Ceir llai na 100 o sbesimenau yn y gwyllt ac nid yw'r profion samplo DNA a gynhaliwyd hyd yma wedi llwyddo i ganfod unrhyw amrywiad genetig 鈥 mae鈥檙 boblogaeth i bob pwrpas yn glonau o鈥檌 gilydd.
4. Mae'r coed talaf cymaint 芒 40 medr o uchder (ac o leiaf 350 blwydd oed) a'r boncyff yn fedr o ddiamedr (er bod llawer o'r coed yn prysgoedio'n naturiol gan dyfu dwsin neu fwy o foncyffion tenau).
5. Mae coed aeddfed yn cynhyrchu conau gwryw a benyw ar goesau gwahanol. Mae'r c么n benyw yn wyrdd ac yn 6-12cm o hyd, 5-10cm o led, ac yn cymryd 18-20 mis i aeddfedu. Mae鈥檙 conau gwryw'n fain, 5-11cm o hyd ac 1-2cm o led.
6. Defnyddir dulliau meithrin modern i ddarparu digon o blanhigion newydd i sicrhau y bydd Wollemia鈥檔 goroesi at y dyfodol a hefyd i fodloni galw mawr gan arddwyr am goeden sydd heb os nac oni bai yn gonwydden anarferol a hardd a fyddai'n gaffaeliad i unrhyw ardd.
7. Mae'r goeden i weld yn wydn ac yn gallu addasu i amodau gwahanol, gan ei bod wedi goroesi mewn tywydd 5 gradd canradd dan y rhewbwynt a 45 gradd canradd ac mewn amrywiaeth mawr o fathau o bridd, er mai compost wedi ei ddraenio'n dda o pH 6 neu lai sydd orau ganddi. Mae i weld yn addas i鈥檞 phlannu mewn twba ac yn gallu goddef haul neu gysgod. Fel rheol mae鈥檔 tyfu tua hanner metr y flwyddyn.
8. Y prif bla yw鈥檙 ffwng Phytophthora cinnamomi sy鈥檔 gwneud i鈥檙 gwreiddiau bydru.
9. Saif coeden Treborth yr ochr draw i鈥檙 ardd gerrig mewn safle agored. Roedd yn 120 cm o uchder pan blannwyd hi (Gorffennaf 2007) 鈥 erbyn hyn mae鈥檔 180 cm o uchder (Medi 2012).
Dyddiad cyhoeddi: 20 Medi 2012