Cadw proffil isel wrth hedfan dros gopaon y byd.
Mae Gwyddau鈥檙 India (Anser indicus) ymysg hedwyr gorau鈥檙 byd adar. Yn ogystal 芒 bod yn hardd yr olwg, maent wedi dod i amlygrwydd fel adar sy鈥檔 hedfan yn ddidrafferth dros gopaon uchaf y byd yn yr Himalaya wrth iddynt ymfudo o un cynefin i鈥檙 llall. Byddai rhywun yn tybio bod yr ymfudo hwn yn galetach fyth wrth ystyried bod lefelau ocsigen ar yr uchder hwn lai na hanner yr hyn a geir ar lefel y m么r. Mae鈥檔 rhaid i bobl sy鈥檔 dringo i鈥檙 fath uchder gymryd egwyl bob cam neu ddau i ddod dros yr ymdrech mewn aer mor denau, ond gall Gwyddau鈥檙 India hedfan am filltiroedd maith uwchlaw鈥檙 copaon, gan glochdar wrth fynd.
鈥淒oedd yr hanesion hyn ddim yn taro deuddeg,鈥 meddai Dr Charles Bishop o'r , a arweiniodd ymchwil ar ymfudiad yr adar. 鈥淢ae adar yn defnyddio llawer o ocsigen wrth hedfan a byddai angen mwy byth yn yr awyr uwchben yr Himalaya nag a ddefnyddir ar lefel y m么r, ond wrth gwrs mae llai o ocsigen ar gael mor uchel i fyny. Pam na fyddent yn dilyn y dyffrynnoedd sydd yn rhedeg rhwng y copaon uchaf?鈥 Yn wir, mae鈥檙 paradocs hwn wedi bod yn benbleth i fiolegwyr am dros 30 o flynyddoedd.
Mae astudiaeth a gyhoeddir yr (31 Hydref 2012) yn mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 broblem yma gan ddefnyddio鈥檙 dechnoleg ddiweddaraf. Mae gwyddonwyr o Brifysgol Bangor, ynghyd 芒 th卯m rhyngwladol, wedi cydweithio i gofnodi lleoliadau GPS (Global Positioning System) 42 o鈥檙 gwyddau fel yr oeddynt yn ymfudo.
鈥淢ae鈥檔 cael ei dderbyn yn gyffredinol, na wnaiff anifeiliaid wastraffu dim mwy o egni nag sydd raid鈥, meddai Dr Lucy Hawkes, prif awdur yr astudiaeth. 鈥淔elly byddem yn rhagdybio y byddai鈥檙 gwyddau鈥檔 dewis hedfan mor isel 芒 phosib dros lwyfandir Tibet, ac y dylent wneud defnydd o unrhyw wyntoedd o鈥檙 tu cefn iddynt er mwyn rhoi hwb i鈥檞 cyflymder.鈥 A dyna bron yn union a ddarganfu鈥檙 astudiaeth. Dewisodd y gwyddau hedfan yn weddol agos at ffurf donnog y tir, ond ar y cyfan, roeddent yn dal ati i hedfan, beth bynnag oedd cyfeiriad y gwynt.
Er y golyga hyn fod yr adegau lle mae鈥檙 aderyn yn hedfan yn uchel iawn yn llawer prinnach nag oedd pobol yn tybio, mae鈥檙 adar mawr hyn yn aml yn hedfan rhwng 4,500 a 5,500 metr uwchlaw lefel y m么r, a chafwyd enghreifftiau ohonynt yn hedfan cyn uched 芒 6,540m a 7,290 m, camp anhygoel sydd yn dal i sefyll fel un o ryfeddodau鈥檙 byd naturiol.
Cyflawnwyd y gwaith gyda chefnogaeth ariannol gan y BBSRC (Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a Gwyddorau Biolegol) a鈥檙 Sefydliad Max Plank dros Adareg. Partneriaid y project oedd Prifysgol Birmingham, Cymdeithas Naturiaethwyr Bombay, Academi Gwyddorau Tsieina, Academi Gwyddorau Mongolia, Prifysgol McMaster, Gwarchodfa Natur Llyn Qinghai, Rhaglen Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig, Arolwg Daearegol yr Unol Daleithiau, Prifysgol British Columbia, Prifysgol Tasmania a Phrifysgol Exeter.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2012