Bang Goes the Theory yn dod i Fangor
Yn dilyn yr helbul diweddar ynghylch cig ceffyl a ddarganfuwyd ynghanol cigoedd eraill, mae鈥檙 rhaglen wyddoniaeth boblogaidd (BBC 2 Cymru 18.30 Mawrth 8 Ebrill 2013/ Llun 8 Ebrill 19.30 BBC One ond nid yn y rhanbarthau) yn edrych ar sut y gellir defnyddio technegau genynnol (DNA) newydd i adnabod y pysgodyn ar eich pl芒t.
Yn y rhaglen mae鈥檙 Athro Gary Carvalho o Brifysgol Bangor yn dangos i鈥檙 gyflwynwraig Maggie Philbin sut y mae鈥檙 gallu i adnabod y pysgodyn yn ei phastai yn fodd i ddiogelu鈥檙 prynwr a鈥檙 stociau pysgod yn ein moroedd.
Bu鈥檙 Athro Carvalho o Ysgol Gwyddorau Biolegol y Brifysgol yn arwain rhwydwaith Ewropeaidd o bwys a fu鈥檔 defnyddio proses 鈥榖arcodio DNA鈥, a gydlynwyd gan Gonsortiwm Barcodio Bywyd. Bwriad y consortiwm yw defnyddio barcod DNA i adnabod pob rhywogaeth ar y ddaear. Bu hefyd yn cydlynu project a gwblhawyd yn ddiweddar, FishPopTrace, i ddatblygu dulliau o ddadansoddi DNA pysgodyn ac adnabod nid yn unig y rhywogaeth ond hefyd y boblogaeth y perthyna鈥檙 pysgodyn iddi.
Mae bron i chwarter o ddaliadau pysgod ar draws y byd yn digwydd yn anghyfreithlon. Mae鈥檙 pysgod hyn sy'n cael eu dal yn anghyfreithlon, heb eu cofnodi na'u rheoleiddio, yn cyfrif am ddwywaith gwerth y pysgod sy'n cael eu dal gan bysgotwyr yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r pysgodfeydd anghyfreithlon hyn yn tanseilio cynaliadwyedd poblogaethau pysgod ac ymdrechion i greu marchnad gynaliadwy a gwerthfawr ar gyfer pysgod.
Fel yr esbonia鈥檙 Athro Carvalho:
Wrth geisio gwarchod cynaliadwyedd ein stociau pysgod, un broblem fawr ar hyn o bryd yw na fu modd profi o鈥檙 blaen union darddle unrhyw bysgodyn penodol ac, o dan rai amgylchiadau, yn benodol yn achos pysgod sydd wedi鈥檜 prosesu neu eu coginio, gall fod yn eithaf anodd hyd yn oed adnabod y rhywogaeth, heb s么n am ei tharddle.
鈥淩ydym wedi datblygu dull y gellid ei ddefnyddio ar draws y gadwyn cyflenwi bwyd ac ar draws y diwydiant pysgod, ac rydym wedi dangos ei effeithiolrwydd o ran pedair rhywogaeth sy鈥檔 gyffredin yn Ewrop. Gellir defnyddio鈥檙 dull hwn i adnabod neu gymharu cyfres o farcwyr genynnol penodol mewn samplau o bysgod, a hynny ar unrhyw bwynt yn y gadwyn defnyddwyr, o鈥檙 rhwyd hyd y pl芒t, ac i olrhain y pysgod i鈥檞 tarddle neu i鈥檞 gr诺p bridio.
Wrth i鈥檙 dull hwn gael ei ddefnyddio鈥檔 ehangach, bydd defnyddwyr yn gallu prynu pysgod, yn ffyddiog eu bod yn prynu neu鈥檔 bwyta鈥檙 cynnyrch a ddisgrifir ar y label neu鈥檙 fwydlen, a bod y nwyddau y maent wedi鈥檜 prynu鈥檔 dod o stociau cynaliadwy o bysgod.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 4 Ebrill 2013