Arbenigedd Bangor mewn 鈥榯echnoleg a fydd yn newid y byd鈥
Mae maes ymchwil y mae Bangor yn arwain ynddo ar raddfa fyd-eang yn cael ei ddisgrifio fel un o鈥檙 deg syniad a allai newid y byd, yn rhifyn y mis hwn (Rhagfyr) o鈥檙 Scientific American.
Mae鈥檙 dechnoleg yn cael ei galw鈥檔 鈥榖io-fwyngloddio. Ynddi, mae bacteria a micro-organebau eraill yn cael eu harneisio i echdynnu metelau gwerthfawr fel copr, nicel ac aur o fwynau. Mae鈥檙 dull hwn yn galluogi cwmn茂au cloddio i echdynnu metelau o ddeunyddiau sy鈥檔 cynnwys metelau ond yn anodd eu prosesu trwy ddulliau confensiynol (y rhan fwyaf yn rhostio鈥檙 mwynau mewn mwyndoddydd), neu鈥檔 cynnwys cyn lleied fel eu bod, fel arall, yn rhy ddrud i weithio 芒 hwy, ac felly鈥檔 cael eu lluchio fel rwbel. Mae bio-fwyngloddio bacteria hefyd 芒鈥檙 fantais fod modd defnyddio鈥檙 bacteria i lanhau llygredd a achoswyd gan weithgareddau cloddio hanesyddol, ac mewn rhai sefyllfaoedd, gellir echdynnu mwy o fetelau gwerthfawr o hen ddeunyddiau gwastraff o fwyngloddio.
Mae bio-fwyngloddio鈥檔 cael ei ystyried yn 鈥榙echnoleg werdd鈥 a fydd yn gynyddol bwysig mewn blynyddoedd i ddod, gan ei fod yn osgoi llawer o鈥檙 costau ynni ac 么l troed carbon sy鈥檔 gysylltiedig 芒 mwyngloddio confensiynol. Er bod mwyngloddio 芒 bacteria yn llawer mwy araf na rhostio mwynau, mae鈥檙 bacteria yn 鈥榞weithio am ddim鈥, ac yn defnyddio鈥檙 ynni sydd i鈥檞 gael yn y mwynau eu hunain. Fel bonws ychwanegol, Mae鈥檙 bacteria yn cymryd carbon deuocsid o鈥檙 aer (fel planhigion gwyrdd) ac felly鈥檔 fodd i weithio yn erbyn problemau sydd y tu cefn i newid hinsawdd.
Yr Athro Barrie Johnson o yw鈥檙 awdurdod sy鈥檔 cael ei ddyfynnu yn yr erthygl yn Scientific American.
Yn ddiweddar, mae wedi bod yn gweithio 芒 dau o brif gwmn茂au cloddio鈥檙 byd i lunio strategaethau newydd i echdynnu metelau o鈥檙 gwaddodion mwynau enfawr yn Awstralia a De America, nad oeddynt o鈥檙 blaen yn cael eu hystyried yn addas ar gyfer bio-fwyngloddio. Mae hefyd yn gweithio 芒 systemau biolegol newydd a all nid yn unig drin dyfroedd llygredig sy鈥檔 draenio o hen fwyngloddiau, ond a all hefyd adennill metelau o鈥檙 dyfroedd ar ffurf fel y gellir eu hailgylchu. Mae鈥檙 dechnoleg hon yn ei dyddiau cynnar ac efallai y bydd yn cymryd 20 mlynedd neu fwy i gael ei defnyddio ar raddfa eang. Mewn byd sy鈥檔 gofyn am fwy a mwy o fetelau o adnoddau sy鈥檔 lleihau鈥檔 fyd-eang, mae defnyddio datrysiad biolegol i echdynnu ac adennill mwynau鈥檔 dod yn fwyfwy atyniadol.
Meddai鈥檙 Athro Johnson, 鈥淔el y mae鈥檙 byd yn symud tuag at gymdeithas sy鈥檔 llai dibynnol ar garbon, mae鈥檔 rhaid i ni ymchwilio i ffyrdd eraill o wneud pethau nad ydynt mor ddibynnol ar ynni a鈥檜 bod yn fwy naturiol. Dyna yw鈥檙 nod tymor hir o harneisio microbau yn y broses o fwyngloddio, ac mae pethau鈥檔 dechrau symud yn braf i鈥檙 cyfeiriad yna.鈥
Mae鈥檙 Athro Johnson yn gweithio gyda gwyddonwyr a diwydianwyr mewn nifer o rannau o鈥檙 byd, gan gynnwys De a Gogledd America, Asia, Affrica ac Ewrop, ac mae wedi bod yn ymgynghorydd ar fio-fwyngloddio i鈥檙 Asiantaeth Ryngwladol dros Ynni Atomig. Mae wedi datblygu nifer o鈥檙 bacteria a ddefnyddiwyd o fannau folcanig a geothermol, fel ynys Garib茂aidd Montserrat a Pharc Cenedlaethol Yellowstone, yn ogystal 芒 hen fwynfeydd, gan gynnwys Mynydd Parys (Ynys M么n).
Mae papur academaidd gan yr Athro Johnson a chydweithwyr iddo, yn cynnwys Kevin Hallberg o Brifysgol Bangor, wedi ennill Gwobr Arbenigedd Blynyddol Hatch ar gyfer y Papur Technegol Gorau. Mae Hatch yn gwmni sy鈥檔 eiddo i鈥檞 weithwyr ac yn darparu gwasanaethau amlddisgyblaethol a phroffesiynol sy鈥檔 darparu gwasanaethau rheoli, peirianneg ac adeiladu, ymgynghori ar broses a busnes i鈥檙 diwydiannau mwyngloddio, metelegol, ynni ac isadeiledd.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Rhagfyr 2011