Athena SWAN
Mae Siarter Athena SWAN yn rhoi cydnabyddiaeth i ddatblygiad cydraddoldeb rhywedd: cynrychiolaeth, cynnydd a llwyddiant i bawb.
Sefydlwyd Siarter Athena SWAN yr Uned Herio Cydraddoldeb yn 2005 i annog a chydnabod ymrwymiad i hyrwyddo gyrfaoedd menywod sy’n gweithio mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch ac ymchwil.
Ym Mai 2015 ymestynnwyd y siarter i gydnabod gwaith a wneir yn y celfyddydau, y dyniaethau, gwyddorau cymdeithas, busnes a'r gyfraith (AHSSBL), ac mewn swyddi proffesiynol a chefnogi, ac i staff a myfyrwyr traws. Mae'r siarter bellach yn cydnabod gwaith a wneir yn mynd i’r afael â chydraddoldeb rhywedd yn ehangach, ac nid dim ond rhwystrau i gynnydd sy'n effeithio ar ferched.
Mae siarter Athena SWAN yr Uned Herio Cydraddoldeb yn cynnwys merched (a dynion lle bo'n briodol) yn y meysydd canlynol:
- swyddi academaidd yn STEMM ac AHSSBL
- staff academaidd a staff cefnogi
- staff a myfyrwyr traws
Mewn perthynas â'r canlynol:
- cynrychiolaeth
- myfyrwyr yn symud ymlaen i’r byd academaidd
- taith trwy gerrig milltir gyrfa
- amgylchedd gwaith yr holl staff
Dyfarnwyd y Fedal Efydd i'r Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym mis Rhagfyr 2016.
Mrs Carol Scott yn derbyn y wobr Athena SWAN ar ran yr Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth gan Syr Paul Nurse, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol a Chyfarwyddwr Sefydliad Francis Crick.
Cysylltiadau ag Athena Swan ym Mhrifysgol Bangor
/humanresources/equalitydiversity/athenaSWAN.php.en