Newyddion: Mai 2021
Llwyddiant grant BASEM ar gyfer ymchwil anafiadau rygbi ieuenctid
Mae staff yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer wedi sicrhau Bwrsariaeth Ymchwil gan Gymdeithas Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Prydain (BASEM) i ymchwilio i rôl y glasoed yn y berthynas rhwng oedran cymharol ac anaf chwaraeon.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2021
Ymgyrchydd canser tra enwog yn siarad efo myfyrwyr
Cafodd myfyrwyr meddygaeth Prifysgol Caerdydd, sydd yn astudio ym Mhrifysgol Bangor, gyfle gwerthfawr i glywed barn uniongyrchol unigolyn sydd wedi byw gyda chanser, wrth glywed profiadau Jules Peter Jones, un sydd wedi goroesi canser ac sy’n codi arian at ganser.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2021
Cymorth amhrisiadwy i fobl sydd yn byw efo dementia gan wirfoddolwyr Cruse
Mae ymchwilwyr yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor yn gwerthuso gwasanaeth newydd i ddarparu cymorth emosiynol ar ôl diagnosis o dementia. Datblygwyd yr gwasanaeth gan Maxine Norrish yn Cruse Cymru, pobl sydd yn byw efo dementia mewn partneriaeth â Chymdeithas Alzheimer Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mai 2021
Cyn-fyfyrwyr PhD Ysgol Gwyddorau Chwaraeon yn sicrhau rôl ym mhrosiect CALIN
Llongyfarchiadau i Sophie Harrison a Matt Boulter sydd, ar ôl cwblhau eu PhD dros y 4 blynedd diwethaf yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, wedi'i recriwtio i ddychwelyd i'r Brifysgol i weithio gyda staff yn yr adran Seicoleg ar y prosiect rhyngwladol cyffrous CALIN sy'n canolbwyntio ar gwyddorau bywyd.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2021