Newyddion: Gorffennaf 2021
Yr asesiad cynhwysfawr cyntaf o effaith newid yn yr hinsawdd ar arfordiroedd a moroedd ledled Tiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig
Mae gwyddonwyr eigion Prifysgol Bangor wedi cyfrannu at asesiad o effeithiau newid yn yr hinsawdd ar foroedd ac arfordiroedd Tiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig, a lansiwyd mewn digwyddiad ar-lein ar 22 Gorffennaf 2021 gan y Bartneriaeth Effeithiau Newid Hinsawdd Morol.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Gorffennaf 2021
Cydnabod Hanzhe Sun am ddawn ragorol mewn peirianneg!
Mae Hanzhe Sun, myfyriwr sydd newydd gwblhau gradd BEng mewn Peirianneg Electronig, ym Mhrifysgol Bangor, gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf, wedi cael ei gydnabod am ei waith caled gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET).
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2021
Canllawiau Ymarferol Newydd Ar Fuddsoddiadau Coedwigaeth I FFERMWYR a Pherchnogion Tir a Ryddhawyd Gan Woodknowledge Wales Mewn Cydweithrediad  Phrifysgol Bangor
Mae cyfres o chwe chanllaw ymarferol ar werthuso agweddau ariannol ar greu coetiroedd a choed, newydd gael eu rhyddhau gan Woodknowledge Wales mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Gorffennaf 2021
Dathlu cyfraniadau eithriadol i addysgu a dysgu
Cyflwynwyd y Cymrodoriaethau Addysgu yn y Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pherianneg eleni.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Gorffennaf 2021
Dathlu llwyddiant y myfyrwyr sy’n graddio yn 2021
Ddydd Gwener yr 2il o Fehefin 2021, cynhaliodd yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig ddathliad ar-lein i'r myfyrwyr sy’n graddio eleni. Cynhaliwyd y digwyddiad ar Zoom, a chafodd ei ffrydio'n fyw ar YouTube a Facebook.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2021
Llwybrau Heb Sbwriel - yn Eryri
Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod yn gweithio gyda Llwybrau Heb Sbwriel i ddarparu project ymchwil dwy flynedd arloesol i leihau sbwriel a llygredd plastig untro.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2021
Resolving Tensions Between Global Development Goals And Local Aspirations
Dyma erthygl yn Saesneg gan David Harris, darlithydd anrhydeddus, Ysgol Gwyddorau Naturiol, Kai Mausch, Uwch Economydd, World Agroforestry (ICRAF) a’r Athro Javier Revilla Diez, University of Cologne, sydd yn cael ei hail gyhoeddi o'r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Gorffennaf 2021
Academyddion Prifysgol Bangor yn cydweithio â Brasil i fynd i'r afael â phroblemau'r byd
Mae academyddion o Brifysgol Bangor yn rhannu eu harbenigedd gyda chydweithwyr ym Mhrifysgol Ffederal São Paulo (UNIFESP) yn São Paulo State, Brasil, i fynd i'r afael â rhai o broblemau cymdeithasol ac amgylcheddol mwyaf dybryd Brasil.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2021