Llwybrau Heb Sbwriel - yn Eryri
Mae sbwriel wedi dod yn bwnc llosg am amgylchedd y môr ac mae glanhau traethau wedi dod yn ffordd werthfawr o godi ymwybyddiaeth a chynhyrchu data ar ffynonellau llygredd yn ein moroedd.
Dyna pam mae Llwybrau Heb Sbwriel, sefydliad dielw sydd â’r genhadaeth i ddod â'r 'meddylfryd traethau glân' i'n mannau gwyllt mewndirol hardd, wedi ymuno â Phrifysgol Bangor i fynd i'r afael â rhai o'r bylchau pwysig hyn yn ein gwybodaeth.
Nid ydym yn gwybod fawr ddim ynglÅ·n â pham mae pobl yn taflu sbwriel, a llai fyth am effeithiau ecolegol hynny.
Mae yna gwestiynau yr ydym gwir angen atebion iddynt, yn enwedig wrth i ni ddod allan o gyfyngiadau'r pandemig yn ofalus ac wrth edrych tuag at ein mannau gwyllt lleol hyfryd ar gyfer cymdeithasu, gwneud ymarfer corff ac ymlacio. Mae'r rhain yn cynnwys cwestiynau fel, pam bod yr union bobl sy'n teithio i fwynhau mannau gwyllt yn taflu sbwriel yno? Beth yw effeithiau ecolegol taflu sbwriel? A sut allwn ni helpu pobl i deimlo mwy o gysylltiad gyda'n parciau, llechweddau, coedwigoedd a llwybrau arfordirol gwych i annog newidiadau mewn ymddygiad?
I lansio partneriaeth academaidd Prifysgol Bangor/Llwybrau Heb Sbwriel, cynhaliodd y brifysgol a Llwybrau Heb Sbwriel yr Uwchgynhadledd gyntaf ar Gyflwr Ein Llwybrau ym Mharc Gwyddoniaeth M-SParc y brifysgol, gan ddefnyddio y cowt awyr agored a'r caffi, sydd yn ddiweddar wedi ennill statws sero-blastig!
Denodd y gynhadledd ryngweithiol gynrychiolwyr o Bosch eBike Systems, Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Eryri, Trek Bikes, British Cycling, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, athletwyr proffesiynol a mwy yn ogystal â llysgenhadon cymunedol o Lwybrau Heb Sbwriel ac ymchwilwyr o Brifysgol Bangor.
Meddai Dom Ferris, Rheolwr Gyfarwyddwr Llwybrau Heb Sbwriel;
“Er mwyn i ni gyflawni ein cenhadaeth i leihau llygredd plastig untro ar ein llwybrau a’n lleoedd gwyllt 75% erbyn 2025 mae angen i ni wybod yn gyntaf faint sydd yna a’r effeithiau a achosir ganddo. Nid oes llawer o ddealltwriaeth wyddonol am hyn ar hyn o bryd (er gwaethaf y ffaith bod amcangyfrifon yn awgrymu bod 4 - 23 gwaith yn fwy o lygredd plastig yn dianc i'n hecosystemau daearol nag i ecosystemau’r môr). Felly daeth yn amlwg bod rhaid i ni ei wneud ein hunain! Mewn ymateb i'r angen hwn, ein Hadroddiad ar gyflwr Ein Llwybrau fydd ein project canolog tan 2025. Drwy gael ein llywio gan brojectau a arweinir gan bobl a defnyddio gwyddor data am ddinasyddion, mae'n anrhydedd ac yn gyffrous i ni weithio ochr yn ochr â Phrifysgol Bangor i gynnal yr ymchwil arloesol hon.
Mae’n hawdd dweud hyn, ond mae gweithredoedd yn dweud mwy na geiriau. Felly, roedd gallu cyflwyno ein Hadroddiad Cyflwr Ein Llwybrau - Astudiaeth Sylfaenol i bron i 30 o randdeiliaid 'ecosystem MTB' allweddol, mewn bywyd go iawn, yng Nghanolfan M-Sparc wedi cadarnhau ein cred ym mhwysigrwydd y project hwn ac wedi ein hysbrydoli i gyd i ddechrau'r cam nesaf yn y project arloesol hwn. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb a ddaeth i Ynys Môn, ein partneriaid ac yn bwysicaf oll ein Cymuned TRASHMOB, sydd wedi gwneud hyn i gyd yn bosib gyda’u 316 o setiau data am lanhau llwybrau. Ewn amdani eto!”
Meddai Dr Martyn Kurr, o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor:
“Wrth i ni barhau i ddatblygu ein hymchwil ar y cyd, mae'n amlwg o'r egni yn y digwyddiad y bydd gennym ddigon o ddiddordeb a buddsoddiad gan randdeiliaid eraill. Roedd y trafodaethau bywiog a chynhyrchiol a'r allbynnau rhyfeddol o'r gweithdai, yn dangos cymuned angerddol o reolwyr ecosystemau, busnesau mentrus, newyddiadurwyr, gweithwyr proffesiynol ac athletwyr, ac wrth gwrs aelodau o'r cyhoedd o bob oed. Rydym i gyd wedi ymrwymo i weithio mewn amgylchedd glanach heb sbwriel. Rydym yn hynod falch o weld cymaint o frwdfrydedd, ac wrth weithio'n agos gyda Llwybrau Heb Sbwriel, rydym yn edrych ymlaen at ganolbwyntio'r angerdd hwnnw ar greu llwyddiant i'n hamgylchedd naturiol. Ni allem fod wedi gofyn am ddigwyddiad gwell i gychwyn ar y siwrnai hon!”
Roedd y digwyddiad yn cynnwys prif siaradwyr, gweithgareddau gweithdy mewn grwpiau llai, a dadansoddiad data byw o adroddiad Cyflwr Ein Llwybrau gan Lwybrau Heb Sbwriel. Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys sesiynau awyr agored ymarferol, glanhau llwybrau, a theithiau beiciau tywysedig yng nghanolfan enwog Coed y Brenin - y ganolfan llwybrau beicio mynydd bwrpasol hynaf yn y byd.
Dadansoddwyd data o weithgareddau'r penwythnos fel rhan o'r gynhadledd, a bwriedir gwneud rhagor o ddadansoddi gan ddefnyddio modelau tri dimensiwn arloesol. Mae'r digwyddiad yn gweithredu fel galwad i ymchwilwyr, busnesau, llunwyr polisi, a'r cyhoedd helpu i fynd i'r afael â sbwriel a gwella ein cysylltiad â'r awyr agored.
Dywedodd Emily Roberts, Rheolwr Gweithrediadau a Phrofiad Cwsmeriaid yn M-SParc:
“Roedd yn wych gweld menter fel hyn gan fyfyriwr o Brifysgol Bangor yn cael ei gynnal. Fel rhan o Brifysgol Bangor rydym yn gweithio'n agos gydag ymchwilwyr ac entrepreneuriaid sy’n fyfyrwyr. Mae’r project hwn yn cyfuno’r ddau, a dymunwn bob llwyddiant i'r project ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd Chris Astle, Rheolwr Marchnata'r DU ar gyfer Bosch eBike Systems:
“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Llwybrau Heb Sbwriel ar Adroddiad Cyflwr Ein Llwybrau. Mae cyfrifoldeb amgylcheddol yn gofyn am ddull gweithredu ar y cyd o wahanol safbwyntiau, ac fel un o brif wneuthurwyr systemau eBike mae'n fraint i ni fod yn rhan o broject ymchwil mor bwysig."
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2021