Partneriaid
Horizon
Hitachi
Bydd M-SParc, parc gwyddoniaeth un pwrpas cyntaf Cymru, yn darparu lle i fusnesau o bob maint, yn cynnwys busnesau newydd a chwmnïau corfforaethol mawr. Bydd popeth sydd ei angen ar fusnes, yn cynnwys cyfleusterau rhagorol a gwasanaethau cefnogi busnes pwrpasol, lle hyblyg i swyddfeydd a labordai, yn cael eu darparu ar y safle. Bydd M-SParc, sy'n eiddo llwyr i Brifysgol Bangor, yn ganolfan i'r sector niwclear ar yr ynys.
Gall M-SParc gyfeirio cwmnïau i'r gefnogaeth bresennol, cynnig mannau cyfarfod i wneud defnydd o'r gwasanaethau hyn, a sicrhau bod desgiau benthyg ar gael yn rheolaidd ar y safle. Bydd pob tenant yn elwa o'r gwasanaeth hwn. Syniadau da. Cefnogaeth wych. Busnesau da. Pan rydych chi'n tyfu - rydym ni'n tyfu. Mae M-SParc eisoes wedi dechrau cynnig y gwasanaethau hyn.
Mae’r Ganolfan Ymchwil BWR yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Choleg Imperial Llundain gyda chefnogaeth gan Hitachi-GE a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Pwrpas Canolfan Ymchwil BWR yw galluogi cymunedau academaidd a diwydiannol Cymru, a'r DU yn ehangach, i ddyfnhau ac ehangu eu dealltwriaeth o dechnoleg BWR, a chymryd rhan mewn ymchwil a datblygu mewn perthynas â'r genhedlaeth hon a'r cenedlaethau nesaf o adweithyddion dŵr berw.
Mae amcanion y ganolfan yn cynnwys creu a datblygu capasiti ymchwil niwclear yng Nghymru ynghyd ag addysg hygyrch i'r cyhoedd mewn technolegau BWR cyfredol ac i'r dyfodol. Ei bwriad hefyd yw hwyluso trosglwyddo gwybodaeth am dechnoleg adweithyddion dŵr berw o Japan i Gymru a'r DU yn ehangach ac ehangu cydweithio mewn perthynas â'r dechnoleg hon.
Llywodraeth Cymru - Swyddfa’r Prif Ymgynghorydd Gwyddonol
Mae Swyddfa’r Prif Ymgynghorydd Gwyddonol yn arwain rhaglen Sêr Cymru. Nod y rhaglen yw cefnogi datblygiad y gallu ymchwil cryfaf yng Nghymru drwy feithrin a sicrhau doniau newydd dan nifer o raglenni. Mae’r Swyddfa hefyd yn cefnogi agweddau ar gyfranogiad strategol y gymuned ymchwil gyda pholisi'r llywodraeth ar draws ystod o feysydd arbenigol.