Ynni adnewyddadwy i Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi bod 100% o鈥檙 trydan a ddefnyddir gan y Brifysgol bellach yn cael ei gyflenwi o ffynonellau adnewyddadwy gwarantedig.
Ym mis Mehefin 2019, cyhoeddodd Prifysgol Bangor yn ffurfiol fod yna 鈥Argyfwng Hinsawdd鈥 yn adlewyrchu鈥檙 ymrwymiad hirdymor i fod yn Brifysgol Gynaliadwy. Mae鈥檙 newid i ynni adnewyddadwy yn rhan o鈥檙 ymrwymiad hwnnw.
Bu鈥檙 Brifysgol yn gweithio'n galed ers dros 15 mlynedd i leihau faint o ynni a ddefnyddir, gyda gostyngiad o bron i 16% o drydan fesul m2 o arwynebedd ers 2005. Yn ystod blwyddyn academaidd 2018/19, defnyddiodd Prifysgol Bangor 7% yn llai o drydan o gymharu 芒'r flwyddyn flaenorol, gan ddefnyddio tua 16.5 GWh o drydan.
Bydd newid i ddefnyddio trydan o ffynonellau cwbl adnewyddadwy yn arwain at leihau 么l troed carbon y Brifysgol hyd at 4500 tunnell CO2e y flwyddyn.
Mae'r newid hwn yn dilyn buddsoddiad dros y 18 mis diwethaf o dros 拢2.5 miliwn ar sicrhau effeithlonrwydd ynni ar draws y Brifysgol. Mae鈥檙 buddsoddiadau yn cynnwys gosod paneli solar newydd ar bedwar adeilad, ac mae gwaith ar y gweill i osod 150 panel solar ychwanegol ar do Prif Lyfrgell y Celfyddydau cyn diwedd y flwyddyn; gosod rheolyddion gwresogi newydd mewn 26 bloc o'r Neuaddau Preswyl ar safle Ffriddoedd; uwchraddio goleuadau yn helaeth; inswleiddio pibellau a gwelliannau i osodiadau a rheolyddion boeleri.
Rhagwelir y bydd y Brifysgol yn defnyddio oddeutu 4 GWh y flwyddyn yn llai o ynni yn sgil y rhaglen uwchraddio gan arbed dros 1100 tunnell o allyriadau carbon (CO2e).
Meddai鈥檙 Athro Oliver Turnbull Dirprwy Is- ganghellor y Brifysgol a Chadeirydd Gr诺p Strategaeth Cynaliadwyedd y Brifysgol:
鈥淢ae hyn yn newyddion gwych. Mae cynaliadwyedd wrth wraidd ein holl weithgareddau ym Mangor ac mae鈥檙 newid hwn yn arwydd pellach o鈥檔 hymrwymiad i fod yn Brifysgol wir gynaliadwy. Mae rhoi sylw i newid hinsawdd yn fater pwysig iawn, ac mae鈥檔 gyfrifoldeb arnom i gyd i weithredu i leihau鈥檙 niwed amgylcheddol all gael ei achosi gan ein gweithgareddau.
Y cyhoeddiad hwn yw cam diweddaraf Prifysgol Bangor mewn ymateb i鈥檙 Argyfwng Hinsawdd a gyhoeddwyd gennym yn gynharach eleni. Yn wir, byddwn yn parhau i weithio ar fesurau i leihau ein heffaith amgylcheddol yn y dyfodol.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019