Prifysgol Bangor a Pŵer Niwclear Horizon yn llofnodi memorandwm i gydweithio
Mae Prifysgol Bangor a Pŵer Niwclear Horizon, sy'n eiddo i un o brif gwmnïau electroneg y byd Hitachi, wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth ffurfiol a fydd yn galluogi'r ddau sefydliad i gydweithredu a chydweithio'n agosach mewn blynyddoedd i ddod.
Mae'r Brifysgol a'r cwmni wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd ers peth amser bellach, fel y gall y cwmni gael gwell dealltwriaeth o'r sgiliau a'r arbenigedd a gynigir gan y Brifysgol, ac fel y gall y Brifysgol, yn ei thro, ddod i ddeall yn well yr hyn fydd ar y cwmni ei angen yn y dyfodol o ran cefnogaeth gydag ymchwil a graddedigion cymwys mewn gwahanol ddisgyblaethau.
Mae'r trafodaethau wedi arwain yn awr at lofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth cyntaf Pŵer Niwclear Horizon gyda phrifysgol Gymreig fel y gallant gydweithio ar faterion yn ymwneud â'r cynllun i godi gorsaf bŵer niwclear Wylfa Newydd yng ngogledd Cymru.
Bydd y memorandwm yn galluogi'r ddwy ochr i weithio'n agosach ac yn fwy agored i edrych ar gyfleoedd a chytuno ar weithgareddau'n ymwneud â'r canlynol:
- Cyflogadwyedd myfyrwyr a lleoliadau gwaith yn Horizon, yn ogystal â gweithgareddau'n ymwneud â chyflogaeth hir-dymor graddedigion yng Ngogledd Cymru.
- Cydweithio a chefnogaeth i ymchwil mewn meysydd perthnasol a gyflawnir gan y brifysgol, yn cynnwys cydweithio posibl o ran darparu cyfleusterau ymchwil.
- Cydweithio mewn gweithgareddau’n ymwneud ag addysg, yn gysylltiedig yn arbennig â hyrwyddo pynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (pynciau STEM).
Meddai Alan Raymant, Prif Swyddog Gweithredu Pŵer Niwclear Horizon, "Mae’r cytundeb hwn yn adlewyrchiad arall o’n cefnogaeth i ddatblygu sgiliau a hyfforddiant yng Ngogledd Cymru, a chreu cyfleoedd gyrfa tymor hir ar gyfer pobl ifanc yr ardal."
“Edrychwn ymlaen ar weithio gyda’r Brifysgol wrth i’r cynlluniau ar gyfer Wylfa Newydd fynd yn eu blaen ac i fanteisio ar yr adnoddau a’r arbenigedd ymchwil rhagorol mae’r Brifysgol wedi datblygu dros y blynyddoedd.â€
Meddai’r Athro John G. Hughes, Is-ganghellor Prifysgol Bangor: "O ystyried maint enfawr y buddsoddi gan Horizon yn Wylfa Newydd, i greu safle sy'n debygol o weithredu am ddegawdau lawer, mae llofnodi'r Memorandwm o Ddealltwriaeth hwn yn foment bwysig i'n dau sefydliad.
"Rwy'n hynod falch bod gennym yn awr fframwaith ffurfiol a fydd yn ein galluogi i weithio gyda'n gilydd, er budd i'r ddau sefydliad ac er budd i'r economi leol a rhanbarthol, am lawer iawn o flynyddoedd i ddod."
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2015