°ä°ù²â²Ô´Ç»å±ð²úÌý
Mae pysgota gwaelod symudol yn darparu 35% o ddalfeydd byd-eang sy'n werth dros £27biliwn, ond gall achosi difrod ecolegol mawr. Mae ymchwil Bangor wedi darparu offer meintiol ar sail tystiolaeth i asesu effeithiau pysgota gwaelod ar ecosystemau ar lefel ranbarthol a byd-eang.ÌýÌý
Mae ymchwil Bangor yn darparu’r offer i amcangyfrif effeithiau pysgota gwaelod ledled y byd, sy’n hanfodol i’r diwydiant pysgota, cyrff cadwraeth, cyrff rheoli a chyrff ardystio i arwain y dewis o fesurau rheoli sydd eu hangen i gyflawni amcanion cynaliadwyedd. Oherwydd yr amcangyfrif hwn o’r gwerthoedd paramedr sy'n berthnasol yn fyd-eang, gellir cymhwyso model Bangor i bysgodfeydd sy'n brin o ddata, e.e. mwyafrif hemisffer y de.Ìý
Mae’r Cyngor Stiwardiaeth Forol yn argymell defnyddio hwn fel y prif ddull o sicrhau gwelyau bioamrywiol a gwydn yn eu pysgodfeydd ardystiedig. Mae’r dull wedi ei gymeradwyo gan Gyngor Rhyngwladol Archwilio'r Môr i'w ddefnyddio yng Nghyfarwyddeb Fframwaith Strategaeth Forol yr UE i gyflawni gofynion polisi allweddol, a chafodd ei ddefnyddioÌý gan Lywodraeth Cymru i danategu ymgynghoriad a phenderfyniad ar dreillio am gregyn bylchog mewn ardal forol warchodedig.Ìý
Ymchwilwyr
- Yr Athro Jan Hiddink
- Yr Athro Michel J. Kaiser Ìý
- Dr Marija SciberrasÌý
- Dr Gwladys Lambert Ìý
- Miss Kathryn Hughes Ìý
- Dr Claire Szostek
Ìý