CrynodebÌý
Mae partneriaeth ymchwil rhwng Prifysgol Bangor a’rÌýWorldÌýAgroforestryÌýwedi cynhyrchu newid paradeim mewn agronomeg, gan gefnogi trawsnewidiadau amaeth-ecolegol ar dri chyfandir.ÌýÌýÌý
Nid oes gan lawer o ffermwyr bach arferion amaethyddol sy’n addas i’w hardal leol ac sy'n adfywio yn hytrach na’n diraddio'r amgylchedd. Mae cymhwyso dull gweithredu Bangor a elwir ynÌýopsiynau yn ôl cyd-destunÌýwedi arwain at newid mawr ym mholisïau ac arferion y sector rhyngwladol, cenedlaethol a phreifat mewn 15 gwlad yn Affrica, AsiaÌýac AmericaÌýLadin. Mae opsiynau yn ôl cyd-destun yn cefnogi dulliau arloesol lleol gan ffermwyr trwy feithrin trosglwyddo i ddulliau ffermio mwy amaeth-ecolegol, gan gynnwys amaeth-goedwigaeth. Mae'r rhain yn cynnwys gwneud y defnydd gorau o brosesau naturiol, megis sefydlogi nitrogen biolegol, yn hytrach na gorfodi systemau amaethyddol gyda mewnbynnau allanolÌý
Ymhlith yr opsiynau amaeth-ecolegol amrywiol a chynhwysol sy'n deillio oÌýgymhwyso'r dull hwn, mae cynyddu diogelwch bwyd, cynyddu incwm ffermydd a gwytnwch amgylcheddol i dros ddwy filiwn o bobl, adfer dros 2.5 miliwn ha o dir, gyda 422,968 o aelwydydd a 428,599ha eisoes wedi cael budd o’r dull, trwy fuddsoddiad o dros £101 miliwn mewn projectau sy'n defnyddio’r dull opsiynau yn ôl cyd-destun.ÌýÌý