Penodi Llysgenhadon Ôl-radd newydd i’r Coleg Cymraeg
Wedi cynllun peilot llwyddiannus llynedd, mae’r wedi penodi llysgenhadon newydd ar gyfer 2021/22 ac mae’r pwyslais ar gadw cysylltiad gyda myfyrwyr ôl-radd sy’n astudio tu allan i Gymru yn elfen hollbwysig eleni.
Eleni bydd 8 llysgennad yn mynd i’r afael a’u rôl newydd dros y misoedd nesaf, ac maent yn cynrychioli meysydd ymchwil amrywiol.Mae pump o’r llysgenhadon wedi’u lleoli mewn prifysgolion yng Nghymru a thri mewn prifysgolion yn Lloegr ac mae pob un yn awyddus i ddatblygu’r ymdeimlad o ‘gymuned’ ôl-radd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru a thu hwnt. Mae Llywodraeth Cymru wedi adnabod bod denu myfyrwyr yn ôl i astudio neu weithio yng Nghymru yn flaenoriaeth ac felly mae’r Coleg yn falch iawn o allu cefnogi’r agenda hon drwy’r Cynllun Llysgenhadon Ôl-radd.
Mae Sofie Roberts sy’n gwneud PhD mewn astudiaeth ffilm, yn un o lysgenhadon y Coleg o Brifysgol Bangor. Meddai:
"Fel llysgennad ôl-radd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, rwy'n edrych ymlaen at sbarduno eraill i gymryd rhan, a helpu i greu gymuned o fyfyrwyr ol-radd Cymraeg. Mae Porth Adnoddau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi bod yn hynod ddefnyddiol ar gyfer fy astudiaethau i, a dwi’n hapus iawn i helpu eraill ddarganfod mwy. Dwi wedi bod yn astudio ar ben fy hun ers tro, felly dwi’n falch iawn o ddod allan o’r ‘bybl’ a gobeithio wnai ysbrydoli myfyrwyr eraill i wneud yr un peth a manteisio ar yr hyn sydd ar gael i ni."
Byddant yn cynrychioli ac yn cefnogi gwaith y Coleg Cymraeg mewn amryw o ffyrdd. Bydd rhai o’r dyletswyddau ar-lein yn cynnwys hyrwyddo a chynnal digwyddiadau, creu a chyfrannu at gynnwys gwefannau cymdeithasol y Coleg, ysgrifennu blog a chreu podlediadau sy’n trafod popeth yn ymwneud a bywyd myfyriwr ôl-radd. Bydd y podlediadau’n cael eu hychwanegu at sianel ‘Sŵn y Stiwdants’. Yn ogystal, bydd y criw yn trefnu cystadleuaeth cyflwyno ymchwil a chwis Nadolig ym mis Rhagfyr ac yn cynnal cyfleoedd i fyfyrwyr ôl-radd ddod ynghyd i sgwrsio a chyfarfod yn ystod y flwyddyn.
Meddai Dr Llion Jones o Ganolfan Bedwyr Prifysgol Bangor:
“Rydym yn llongyfarch Sofie ar ei phenodiad ac yn hyderus y bydd y gymuned ôl-radd Gymraeg gref sydd gennym ym Mangor yn gefn iddi wrth ei gwaith fel llysgennad”.
Meddai Lois McGrath, Swyddog Datblygu Ymchwil a Hyfforddiant y Coleg Cymraeg:
“Rydyn ni’n hynod o falch o benodiad y criw arbennig yma o lysgenhadon ôl-radd eleni ac edrychwn ymlaen yn arw at gydweithio â nhw yn ystod y flwyddyn academaidd. Mae’r profiad o fod yn llysgennad yn mynd i gefnogi’r myfyrwyr i ychwanegu at eu proffil academaidd yn ogystal â chryfhau eu CV. Bydd y llysgenhadon yn chwarae rôl flaenllaw wrth annog a hyrwyddo ein Rhaglen Sgiliau Ymchwil – rhaglen sy’n cynnig hyfforddiant a chefnogaeth i fyfyrwyr trwy gydol eu cyfnod ymchwil. Mae’r rhaglen yn agored i unrhyw un sy’n fyfyriwr ymchwil, ym mha bynnag brifysgol maen nhw’n astudio a beth bynnag yw’r maes ymchwil. Mae croeso i bawb ac rydyn ni’n awyddus i rannu’r neges honno yn eang.”