Mae tair Ysgoloriaeth Bangor Gynhwysol wedi eu dyfarnu i dri o raddedigion eithriadol Prifysgol Bangor yn 2022, sef Kaitlin Corry, Jaime Johnston ac Evie Mainwaring.
Mae'r ysgoloriaethau (sy'n talu am hyd at 拢9500 o ffioedd cwrs) yn cefnogi myfyrwyr sy'n parhau 芒'u hastudiaethau ym Mangor. Nod yr ysgoloriaethau yw tynnu sylw at amrywiaeth a chynwysoldeb ein poblogaeth o fyfyrwyr a dathlu hynny, er mwyn sicrhau bod llais a phrofiad myfyrwyr yn rhan o agenda cydraddoldeb, amrywiaeth a chynwysoldeb ac agenda Athena Swan y brifysgol ac er mwyn cefnogi datblygiad gyrfa鈥檙 myfyrwyr hynny sy鈥檔 cyfrannu at y ddwy agenda bwysig hyn.
Mae Kaitlin Corry, sy鈥檔 24 oed ac o Swydd Gaerhirfryn yn astudio am MSc mewn Niwroddelweddu yn yr Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol, a dywedodd, 鈥淢ae鈥檔 bwysig bod lleoliadau addysg uwch yn ceisio cau鈥檙 bwlch cydraddoldeb yn defnyddio mentrau fel ysgoloriaethau Bangor Gynhwysol. Dwi'n ddiolchgar iawn fy mod wedi derbyn yr ysgoloriaeth yma oherwydd dwi wedi gallu aros ym Mangor ac mae wedi rhoi sefydlogrwydd ariannol i mi fedru canolbwyntio ar fy astudiaethau a chymryd y cam nesaf mewn gyrfa dwi wir yn angerddol amdani. Fel merch hoyw o gefndir economaidd-gymdeithasol is, dwi hefyd yn angerddol iawn dros gefnogi amgylchedd cynhwysol ac mi hoffwn i helpu i roi hyder a chefnogaeth i bobl eraill sy'n cael trafferth gyda materion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.鈥
Mae Jaime Johnston , sy鈥檔 21 oed ac o Ogledd Iwerddon, yn astudio am MA mewn MA mewn Troseddeg a'r Gyfraith yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas. Dywedodd Jaime, 鈥淒wi鈥檔 ofnadwy o ddiolchgar fy mod i wedi cael yr ysgoloriaeth hon ac mi fyswn i鈥檔 licio diolch i Bwyllgor Athena Swan y Brifysgol am y cyfle! Fel myfyriwr, mae鈥檔 amlwg bod Prifysgol Bangor yn condemnio aflonyddu, gwahaniaethu ac erledigaeth, ac yn annog ei chymuned i ddeall y materion yma a mynd ati i鈥檞 herio. Yn bersonol, dwi'n ymdrechu nid yn unig i gyfrannu at y gwaith rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud ym maes cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym Mhrifysgol Bangor, ond hefyd i ddatblygu strategaethau o'r fath ym maes troseddeg a gweithio i leihau gwahaniaethu, erledigaeth ac aflonyddu ym mhob agwedd ar fywyd.鈥
Mae Evie Mainwaring, sy鈥檔 21 oed ac o鈥檙 Felinheli, yn astudio am MSc mewn Bioleg M么r yn Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion a dywedodd, " Ers i mi fod yn ifanc, dwi wedi bod 芒 diddordeb dilyn gyrfa ym maes STEM ond doedd dim llawer o fodelau r么l yn y maes oedd yn ferched ac, fel llawer o ferched, ro鈥檔 i鈥檔 poeni am fathemateg. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae canran y merched ym maes STEM wedi cynyddu ac mae hynny鈥檔 beth cadarnhaol iawn. Dwi鈥檔 ddiolchgar iawn o dderbyn yr Ysgoloriaeth Bangor Gynhwysol er mwyn gallu parhau 芒鈥檓 hastudiaethau yn Ysgol Gwyddorau鈥檙 Eigion ym Mangor a dwi鈥檔 gobeithio cael bod yn rhan o ddigwyddiadau 鈥楳erched mewn STEM鈥 er mwyn cael ysbrydoli merched ifanc eraill i fynd ar drywydd eu huchelgais o ran gyrfa ac i feithrin hyder a gwireddu eu potensial. Rwyf hefyd yn wirioneddol angerddol am griced merched a chynyddu cyfranogiad merched yn y gamp.鈥
Dywedodd yr Athro Morag McDonald, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Amrywiaeth a Chynhwysiant, 鈥淢ae Gr诺p Athena Swan y Brifysgol yn falch iawn o gael dyfarnu Ysgoloriaethau Bangor Gynhwysol eto eleni. Cynigir yr ysgoloriaethau hyn i unrhyw fyfyrwyr sy鈥檔 parhau 芒鈥檜 hastudiaethau ym Mangor gyda鈥檙 bwriad o ddathlu ac amlygu'r myfyrwyr hynny sydd, nid yn unig yn rhagori yn academaidd, ond sydd hefyd yn cyfrannu at newid diwylliannol ac at amrywiaeth yn eu dewis faes. Rwy鈥檔 falch iawn ein bod wedi dyfarnu鈥檙 ysgoloriaethau i dri myfyriwr rhagorol sy鈥檔 gwneud yn union hynny. Hoffwn longyfarch Evie, Jaime a Kaitlin ar dderbyn yr ysgoloriaethau eleni ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw wrth gefnogi a datblygu cymuned gynhwysol ym Mhrifysgol Bangor.鈥
Mae Prifysgol Bangor yn aelod o siarter Athena SWAN ac felly wedi ymrwymo i gydraddoldeb rhywiol ac amrywiaeth, ac i greu a hyrwyddo diwylliant cynhwysol i staff a myfyrwyr ar bob lefel. Diben ysgoloriaethau Bangor Gynhwysol yw cefnogi myfyrwyr sy'n graddio i barhau 芒'u hastudiaethau ym Mangor - yn enwedig mewn meysydd lle ceir tangynrychiolaeth o grwpiau penodol ar lefel 么l-radd a/neu lle mae merched yn gadael y meysydd hynny oherwydd diffyg cyfleoedd.