Cyhoeddwyd Noah Greenhalgh, raddiodd yn ddiweddar o Brifysgol Bangor, yn un o brif enillwyr Gwobrau RTS Cymru Wales fel rhan o ddathliad blynyddol cynyrchiadau teledu a ffilm mewn seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd.
Enillodd ffilm ôl-raddedig Noah, Matchiko: The Last Settlement - cynhyrchiad byr wedi’i hanimeiddio â thema amgylcheddol gref - y Wobr Crefft Myfyrwyr am waith Sain.
Astudiodd Noah radd Meistr mewn Cynhyrchu Ffilm ym Mangor ac mae bellach yn gweithio fel Animeiddiwr Cynorthwyol yn TAPE Community Music and Film ym Mae Colwyn.
Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Noah, “Roedd yn foment swreal, gan i mi gwblhau'r ffilm ‘Matchiko’ mewn bwthyn bach ym mynyddoedd Eryri, ac felly roedd mynd o’r mynyddoedd i lwyfan gwobrau’r RTS wir yn anhygoel, er fy mod i’n nerfus dros ben!
“Mae’r holl gefnogaeth a’r caredigrwydd dw i wedi derbyn gan ffrindiau, fy nheulu a fy nhiwtoriaid wedi bod yn wych, ac yn sicr wedi fy ysbrydoli i barhau i ddefnyddio’r grefft o animeiddio er mwyn adrodd hanesion.
“Mae’n anrhydedd i fynychu seremoni wobrwyo’r RTS. Roedd dathlu creadigrwydd gyda rhai sy’n ymddiddori yn yr un maes mor fendigedig. Dyma noson fydd yn aros yn hir yn y cof!
Nid ffilm Noah oedd yr unig gynhyrchiad o Brifysgol Bangor i gael ei enwebu, gyda dau gynhyrchiad ffeithiol hefyd yn cyrraedd y rhestr fer mewn categorïau eraill. Enwebwyd Ultimate Retro Party, ffilm fer yn canolbwyntio ar her ddringo wnaed gan Callum Brunskill, Rufina Kaloyanova a Grayson Stripling yn y categori Cynhyrchu Ffeithiol Israddedig. Derbyniodd Life with Emotions gan Shafin Basheer, portread o’r cerflunydd Nick Elphick o Landudno, hefyd enwebiad yn y categori Cynhyrchiad Ffeithiol Ôl-raddedig.
Meddai Dr Geraint Ellis, darlithydd yn y Cyfryngau, “Roedd hi’n noson wych, i Noah a’r cyn-fyfyrwyr eraill o Fangor gafodd eu henwebu. Maen nhw’n haeddu pob cydnabyddiaeth am eu llwyddiant - roedd 'na nifer gymharol fach o gategorïau myfyrwyr, ond roedd o’n galonogol gweld sut roedd y gwobrau hyn wedi eu cyflwyno ochr yn ochr â’r gwobrau diwydiant yn ystod y seremoni, ac mi fanteisiodd y myfyrwyr ar y cyfle i sgwrsio efo pawb ar y diwedd. Roedd eu hareithiau wrth dderbyn y gwobrau wedi gwneud dipyn o argraff ar y gynulleidfa hefyd.”
Roedd cyn-fyfyrwyr eraill o Brifysgol Bangor hefyd yn rhan o sawl cynhyrchiad a gafodd eu henwebu ac a gafodd lwyddiant, gan gynnwys Nia Roberts, a gynhyrchodd Hywel Gwynfryn yn 80, a enillodd y wobr am y cynhyrchiad Comedi neu Adloniant Gorau.