Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gynyddol o nifer yr achosion ac effaith profiadau trawma i lawer o bobl. Mae hyn wedi arwain at awgrymiadau i arwain arferion ymwybyddiaeth ofalgar mewn ffyrdd sy’n sensitif i drawma. Cynghorir pob athro ymwybyddiaeth ofalgar i astudio a hyfforddi yn y ffyrdd hyn. Yn gryno, mae’n bwysig mabwysiadu arddull gwahoddiadol iawn sy’n rhoi ymreolaeth lwyr i’r cyfranogwr wneud dewisiadau ynglŷn â sut mae’n ymgysylltu â’r ymarfer, ac i gynnig nifer o wahanol ddewisiadau i angori’r sylw. Rydym yn argymell bod athrawon yn darllen llyfr David Treleaven 'Trauma Sensitive Mindfulness' a'r bennod yn 'Essential Resources for Mindfulness Teachers' ar sensitifrwydd trawma gan Crane, Karunavira a Griffith. Recordiwyd y rhan fwyaf o'r ymarferion isod cyn yr argymhellion newydd hyn. Mae'r arferion sydd wedi'u recordio’n ddiweddar gyda'r canllawiau newydd hyn wedi'u cyfuno wedi cael eu nodi fel rhai sy'n 'ymgorffori sensitifrwydd trawma'. Fel arfer, wrth ymarfer myfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar, defnyddiwch yr arferion fel arweiniad yn hytrach na chyfarwyddyd ac addaswch y canllawiau i gyd-fynd â’ch amgylchiadau, sensitifrwydd ac anghenion ar unrhyw adeg.
Sgan y Corff
Myfyrdod ar eich eistedd (neu gorfedd, neu sefyll)
Symudiadau Meddylgar
Ymarfer byr ‘STOP'
Ymarferion i fynd gyda llyfr Mark Williams a Danny Penman 'Meddylgarwch’ (Y Lolfa)