Cyrsiau Ôl-raddedig trwy Ddysgu
Rydym wedi hyfforddi cannoedd o athrawon MBSR a MBCT gyda'n tîm sefydledig a phrofiadol o hyfforddwyr athrawon ymwybyddiaeth ofalgar. Rydym bellach yn cynnig gradd Meistr Dulliau Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar 3 blynedd sy'n gymwys am fenthyciad ôl-raddedig.
Mae gwneud y Gradd Meistr mewn Dulliau Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar yn brofiad addysgol mwyaf pleserus fy mywyd.
-
Mae gennym hyfforddwyr ymwybyddiaeth ofalgar hynod brofiadol (rhai gyda 30+ mlynedd o brofiad) sy'n darparu hyfforddiant rhagorol o ansawdd uchel
-
Rydym yn darparu hyfforddiant athrawon llawn i gyflwyno cwrs ymwybyddiaeth ofalgar, ni waeth a ydych yn ddechreuwr neu â rhai blynyddoedd o brofiad
-
Rydych chi'n ennill dealltwriaeth gadarn o seiliau damcaniaethol ymyriadau sy'n seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar
-
Dosbarthiadau bach gyda chymarebau staff : myfyrwyr rhagorol
-
Pwyslais ar uniondeb ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar
-
Gallwch ennill y cymhwyster addysgu ymwybyddiaeth ofalgar uchaf yn y Deyrnas Unedig
-
Cyfle i archwilio eich ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar eich hun yn fanwl wrth hyfforddi i addysgu
Cyrsiau Lleihau Straen drwy Ymwybyddiaeth Ofalgar
Cyrsiau 8 wythnos
Os ydych chi eisiau archwilio ymwybyddiaeth ofalgar drosoch eich hun, mae'r cwrs 8 wythnos yn fan cychwyn gwych. Oherwydd newidiadau ym Mhrifysgol Bangor, nid yw’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar (CMRP) bellach yn darparu cyrsiau Lleihau Straen Seiliedig ar Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBSR). Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu ag , sy'n darparu llawer o gyfleoedd ymwybyddiaeth ofalgar yng Ngogledd Cymru: mae eu tîm addysgu yn cynnwys llawer o athrawon ymwybyddiaeth ofalgar â blynyddoedd o brofiad.
Os ydych chi eisiau rhagflas o sut beth yw myfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar cyn penderfynu a ydych am gofrestru ar gwrs, dyma rai traciau sain ymwybyddiaeth ofalgar am ddim gan rai o'n hathrawon ymwybyddiaeth ofalgar CMRP i chi roi cynnig arnynt.
Cyrsiau 8 wythnos Dysgu o Bell
Mae dysgu o bell yn gyfle gwych i ddysgu ymwybyddiaeth ofalgar un-i-un gydag athro/athrawes o’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar (CMRP). Byddwch yn derbyn deunyddiau dysgu gartref ac yn ymgysylltu â'ch athro dros y ffôn neu drwy sesiynau rhyngrwyd unwaith yr wythnos. Mae’r cwrs hwn yn arbennig o addas i bobl a allai ei chael hi’n anodd mynychu cwrs grŵp 8 wythnos:
- Nid oes cyrsiau yn eich gwlad neu ardal
- Cyfleoedd cyfyngedig oherwydd dyletswyddau gofalu
- Methu â mynychu grŵp am resymau iechyd.
Mae’r ffordd hon o ddysgu hefyd yn ddelfrydol i unrhyw un sydd ag ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar a hoffai ddyfnhau a dwysáu eu hymarfer mewn perthynas addysgu un-i-un ag athro profiadol.
I gael gwybodaeth am gyrsiau dysgu o bell, e-bostiwch distance-learning@mindfulness-network.org.
Rydym yn cynnig grwpiau cyfarfod misol parhaus ym Mangor i bawb sydd wedi gwneud cwrs 8 wythnos gyda ni.
Gallwch hefyd ymuno â ni am ddiwrnod rhad ac am ddim o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn.
Opsiwn gwych yw ein Cwrs 6 wythnos Aros yn Ofalgar, sydd wedi’i ddatblygu i’r rhai sy’n dymuno dyfnhau eu hymarfer ymwybyddiaeth ofalgar ar ôl cwblhau’r cwrs 8 wythnos.
Ìý
Rydym wedi hyfforddi miloedd o athrawon ymwybyddiaeth ofalgar ac mae gennym dîm hyfforddi hynod brofiadol. Y prif lwybrau i hyfforddiant i fod yn athro ymwybyddiaeth ofalgar yw ein Rhaglenni meistr a'r Llwybr Hyfforddiant Athrawon.
Cyrsiau Tosturi
Gall cyrsiau sy’n cyfuno ymwybyddiaeth ofalgar â hyfforddiant tosturi ein helpu i ddatblygu a dyfnhau ein gallu dynol naturiol o ran tosturi, fel y gallwn fod yn fwy caredig i ni ein hunain ac i eraill. Yn ogystal â'n paratoi i wynebu heriau bywyd, mae tosturi hefyd yn gyfrwng i fod yn hapusach.
Mewn cyrsiau wedi’u seilio ar dosturi, dysgir caredigrwydd a thosturi yn fwy amlwg a chanolog nag y maent yn MBSR ac MBCT, ac mae mwy o ffocws ar ddatblygu'r rhinweddau hyn. Mae ein gallu i wynebu profiadau heriol gyda thosturi – yn lle beirniadu a barnu – yn cael ei ddatblygu’n dyner trwy arferion ac ymarferion penodol, ochr yn ochr â ffocws ar brofiadau dymunol a datblygu emosiynau cadarnhaol.
Nid yw’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar bellach yn cynnig digwyddiadau wedi’u seilio ar dosturi. Fodd bynnag, os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am dosturi, rydym yn argymell eich bod yn edrych ar wefan y Rhwydwaith Ymwybyddiaeth Ofalgar.
Mae’r Rhwydwaith Ymwybyddiaeth Ofalgar yn cynnig ystod eang o encilion preswyl a dibreswyl ar sail tosturi a chyrsiau hyfforddiant athrawon mewn:
I ddarganfod mwy am MSC ac MBCL, ac i weld eu rhestr lawn o ddigwyddiadau, ewch i wefan y Rhwydwaith Ymwybyddiaeth Ofalgar ().