Ymchwil mewn ieithoedd unigol
Mae鈥檙 canlynol yn rhoi blas i chi o鈥檙 ymchwil ym mhob maes iaith:
Ffrangeg ac Astudiaethau Ffrangeg
Ym maes a Ffrangeg ac Astudiaethau Ffrangeg, mae arbenigedd neilltuol ym maes astudiaethau 么l-wladychol, gan archwilio effaith gorffennol trefedigaethol Ffrainc ar y gymdeithas fodern trwy鈥檙 cof, mudo, ffilm, chwaraeon a diwylliant poblogaidd. .
Astudiaethau Sbaenaidd
Yn Astudiaethau Sbaenaidd, mae'r ffocws ar gyrion Iberia ac mae arbenigedd mewn hunaniaeth a diwylliant Galisaidd, Catalaneg a Basgeg. Pwysleisir agweddau ar alltudiaeth, mudo a symudedd, yn ogystal 芒 rhywedd, gwleidyddiaeth a hunaniaethau lleiafrifol.
Astudiaethau Almaeneg
Mewn Astudiaethau Almaeneg mae arbenigedd mewn testun, perthnasedd cymharol a pherfformrwydd, yn ogystal ag ymchwil arloesol a arweinir gan ymarfer mewn perfformiad. Yn ogystal, mae ffocws hirsefydledig ar l锚n deithio, trosglwyddo diwylliannol a diwylliant y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Astudiaethau Eidalaidd
Mewn Astudiaethau Eidalaidd, mae pwyslais ar ddiwylliannau De'r Eidal, gan gynnwys y Maffia, a llenyddiaeth, diwylliant a hanes cyfoes yr Eidal.
Astudiaethau Tsieineaidd
Mewn Astudiaethau Tsieineaidd mae鈥檙 ymchwil yn canolbwyntio ar y modd y caiff Tsieina ei chynrychioli yng nghyfryngau Prydain.
Astudiaethau Cyfieithu
Mewn Astudiaethau Cyfieithu, mae鈥檙 pwyslais ar r么l cyfieithu mewn trafodaethau rhyngddiwylliannol, yn enwedig o ran ieithoedd lleiafrifol, yn ogystal 芒 materion sy鈥檔 ymwneud 芒 grym, rhywedd a r么l cyfieithu mewn cymdeithas.