Mae'r holl gyrsiau a gynigir gan yr Adran Ieithoedd a Diwylliannau Modern yn raddau pedair blynedd sy鈥檔 cynnwys blwyddyn dramor orfodol. Byddwch yn treulio'r drydedd flwyddyn yn gweithio neu'n astudio dramor cyn dychwelyd i Fangor ar gyfer y flwyddyn olaf. Yn ystod eich ail flwyddyn, cewch eich cefnogi i ddewis sut i dreulio'r flwyddyn dramor a'ch arwain drwy'r broses ymgeisio.聽 Gall y flwyddyn fod ychydig yn frawychus i ddechrau, ond mae gennym gefnogaeth bwrpasol i chi, yn yr adran a gan Ganolfan Addysg Ryngwladol y brifysgol, i sicrhau bod pethau'n mynd mor esmwyth 芒 phosibl.
Mae tri phrif opsiwn:
- Astudio mewn prifysgol bartner mewn gwlad lle siaredir eich dewis iaith. Os ydych yn astudio dwy neu dair iaith, byddwch yn rhannu'r flwyddyn mewn dwy wlad.
- Cynorthwyydd Iaith y Cyngor Prydeinig: r么l 芒 th芒l yw hon ac mae鈥檔 gyfle i chi weithio mewn ysgol fel cynorthwyydd Saesneg am flwyddyn.
- Lleoliad gwaith: gallwch weithio dramor am y flwyddyn ar leoliad gwaith cymeradwy. Nid ni sy鈥檔 darparu'r lleoliadau, ond mi wnawn eich cefnogi i archwilio'r opsiwn hwn.
Astudio Dramor
Mewn sawl ffordd, y flwyddyn dramor yw uchafbwynt gradd mewn Ieithoedd Modern. Mae鈥檔 gyfle i ddod i adnabod diwylliannau eraill, gwella eich sgiliau iaith, ennill sgiliau bywyd gwerthfawr a meithrin eich datblygiad personol chithau. Gall fod yn brofiad sy鈥檔 newid bywydau llawer a daw 芒 chyfleoedd newydd i chi ar 么l graddio. Mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'ch CV a'ch rhagolygon am waith.