Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Datblygwch sgiliau mewn un, dwy neu dair iaith a chael dealltwriaeth uwch o sut y cânt eu defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau proffesiynol gyda’r radd BA (Anrh.) Astudiaethau Ieithoedd Modern tair blynedd hon ym Mhrifysgol Bangor.
Dewiswch o blith Sbaeneg, Almaeneg a Ffrangeg, Tsieinëeg a Eidaleg – gallwch astudio ieithoedd nad ydych erioed wedi eu hastudio o’r blaen neu roi hwb i’ch hyfedredd yn y rhai y mae gennych eisoes wybodaeth amdanynt. Trwy amrywiaeth hyblyg o fodiwlau, byddwch yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am agweddau cyffrous ar wahanol ddiwylliannau ac yn dysgu am sinema, llenyddiaeth, hanes, gwleidyddiaeth ac arferion gwaith gwledydd eraill. Byddwch hefyd yn gallu datblygu eich cyflogadwyedd drwy wirfoddoli mewn projectau iaith gydag ysgolion lleol.Â
Trwy astudio’r radd Astudiaethau Ieithoedd Modern hon, byddwch yn gallu cyfathrebu mewn ieithoedd eraill a bydd gennych ymwybyddiaeth ddiwylliannol gryfach. Wrth i chi ddilyn y cwrs, byddwch yn datblygu’r gallu i wneud ymchwil, a llunio a chyflwyno dadleuon yn hyderus. Gyda’i gilydd, bydd y sgiliau hyn yn eich gwneud yn gyflogadwy mewn amrywiaeth eang o sectorau, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.Â
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Gradd hyblyg yn astudio un, dwy neu dair iaith.  Neilltuwch eich astudiaethau i un iaith – gan ddewis o blith Ffrangeg, Almaeneg neu Sbaeneg – neu astudiwch ddwy neu dair iaith, gan gynnwys yr ieithoedd hyn Eidaleg a Tsieinëeg.
- Rydym yn darparu ar gyfer rhai sy'n dechrau iaith o'r newydd, yn ogystal â dysgwyr mwy hyfedr.  Byddwch yn astudio mewn amgylchedd dwyieithog.
- Dysgwch am hanes a diwylliant yn y cymdeithasau lle siaredir eich iaith. Â Yn dibynnu ar eich diddordebau, er enghraifft, gallwch ddewis modiwlau mewn hanes, llenyddiaeth, sinema, theatr, a diwylliant poblogaidd.
- Byddwch yn ymuno â chymuned ddysgu glos, gefnogol lle mae’r darlithwyr ar gael ichi’n rhwydd.  Mae cyfleoedd i fentora  disgyblion 12-14 oed mewn ysgolion lleol a chewch ymuno â LangSoc sef y gymdeithas ieithoedd modern a gynhelir gan fyfyrwyr.
Cynnwys y Cwrs
Mae’r radd dair blynedd BA (Anrh.) Astudiaethau Ieithoedd Modern hon yn cynnig yr un modiwlau â'r radd bedair blynedd BA (Anrh.) Ieithoedd Modern, ond mae'n rhoi mwy o ffocws ar ieithoedd mewn cyd-destun proffesiynol yn y flwyddyn olaf.
Nid oes blwyddyn dramor yn rhan o'r radd hon.
Ers sefydlu'r Brifysgol yn 1884, mae Bangor wedi rhagori ym maes addysgu ac ymchwil Ieithoedd Modern. Mae gan ein staff arbenigedd mewn cyfieithu, ffilm, llenyddiaeth, llên deithio, perfformio, diwylliannau gweledol, diwylliant poblogaidd, newid cymdeithasol-wleidyddol a diwylliannau trawswladol. Adlewyrchir hyn yn rhai o'r modiwlau y gallwch ddewis o’u plith.
Mae modiwlau dewisol (y gallant newid) yn caniatáu ichi ddilyn pynciau arbenigol o ddiddordeb arbennig, gan roi mwy o werthfawrogiad i chi o ddiwylliannau a chymdeithasau anghyfarwydd yn y cyd-destun ieithyddol perthnasol.  Ymysg y modiwlau a gynigiwn ar hyn o bryd, er enghraifft, mae hanesion cenedlaethol, diwylliannau trawswladol, hunaniaethau yn sinema'r byd, ac ieithoedd ac ecoleg.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Astudiaethau Ieithoedd Modern BA (Hons).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Ieithoedd Modern
- Canolfan Iaith lle gallwch weithio ar eich sgiliau iaith.
- Ystafelloedd adnoddau iaith-benodol lle gallwch gael gafael ar ddeunyddiau i hybu eich sgiliau iaith a'ch gwybodaeth ddiwylliannol.
- Llyfrgell DVD Ieithoedd Modern sy'n cynnwys cannoedd o ffilmiau iaith dramor y gallwch eu benthyg am ddim.
- Mannau astudio pwrpasol.
- Llyfrgell ffilmiau.
- Cefnogaeth bwrpasol i’r flwyddyn dramor.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.Â
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:Â
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer holl gyrsiau Ieithoedd Modern: Ffafrir iaith fodern berthnasol. Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio i ddarparu ar gyfer y rhai sydd wedi astudio un iaith neu fwy, yn ogystal â chynnig llwybrau i'r rhai sy'n dechrau iaith o'r newydd - nid oes gofyniad iaith fodern ar gyfer llwybr iaith y dechreuwyr.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104- 128Â pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Iaith Fodern berthnasol yn ddelfrydol (nid oes angen iaith fodern ar gyfer y llwybr i ddecheuwyr); Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080):Â ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn iaith fodern berthnasol (nid oes angen iaith fodern ar gyfer y llwybr i ddecheuwyr)
- Access:Â Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig:Â Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hÅ·n.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylionÂ
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i .
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i .
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Â
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hÅ·n sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hÅ·n. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.ÌýÌý
Gyrfaoedd
Gydag ail, trydedd neu hyd yn oed bedwaredd iaith, byddwch yn gallu helpu pobl, sefydliadau, cenhedloedd a chymunedau rhyngwladol i gyfathrebu'n fwy effeithiol.
Bydd eich sgiliau iaith yn arbennig o ddefnyddiol mewn gwledydd lle mai eich iaith chi yw'r iaith swyddogol neu un o'r ieithoedd swyddogol a ddefnyddir i gyfathrebu.  Mae ar ranbarthau sy’n gyrchfannau poblogaidd ar gyfer twristiaeth a lletygarwch hefyd angen pobl â sgiliau iaith gwahanol, fel y mae sefydliadau a chwmnïau sy’n ymdrin â phartneriaid, cyflenwyr, cleientiaid a chwsmeriaid rhyngwladol.
Mae ein gradd BA (Anrh) Ieithoedd Modern yn dysgu nid yn unig amrywiaeth eang o sgiliau pwnc-benodol, ond hefyd sgiliau trosglwyddadwy a werthfawrogir yn fawr ym myd gwaith.
Mae swyddi nodweddiadol yn cynnwys:
- Swyddog gwasanaeth diplomyddol
- Gweithiwr cymorth/datblygu rhyngwladol
- Cyfieithydd ar y pryd
- Swyddog cysylltiadau cyhoeddus
- Rheolwr gwerthiannau
- Cyfieithydd
- Ymchwilydd
- Athro/athrawes neu diwtor preifat
- Darlithydd
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan .
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Ieithoedd Modern (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.Â