Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Cynlluniwyd y rhaglen hon i roi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o egwyddorion a chymhwyso dulliau cynllunio ymchwil a dulliau dadansoddol sy'n berthnasol i'r astudiaeth wyddonol o seicoleg chwaraeon ac ymarfer. Mae'r rhaglen yn hwyluso integreiddio theori ac ymarfer proffesiynol, a thrwy gydol y rhaglen mae'r broses ymchwil a'r pwyslais ar annibyniaeth myfyrwyr wrth ddysgu yn dod yn fwyfwy pwysig.
Hyd y Cwrs听
Blwyddyn yn llawn-amser, astudiaeth ran-amser ar gael hefyd.
Gofynion Mynediad
Gradd anrhydedd 2.ii o leiaf mewn pwnc perthnasol (neu gyfwerth).
Gellir hefyd ystyried myfyrwyr sydd 芒 gradd o faes academaidd gwahanol. Caiff gweithwyr proffesiynol sydd 芒 chymwysterau ac eithrio gradd eu hasesu ar sail unigol. Cysylltwch 芒 ni.
Mae'n ofynnol i fyfyrwyr yr UE a myfyrwyr tramor, nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt, sefyll y prawf Saesneg safonol (IELTS). Mae myfyrwyr sy'n cael sg么r o 6.0 neu uwch (dim sg么r unigol dan 5.5) yn gymwys i gael mynediad uniongyrchol i'r cwrs.
Gyrfaoedd
Mae gyrfaoedd posib yn y dyfodol yn cynnwys:
- Astudio am PhD (ym Mhrifysgol Bangor neu rywle arall)
- Darlithydd mewn addysg bellach neu addysg uwch
- Athro/athrawes
- Ffisiotherapi
- Cynorthwyydd ymchwil (prifysgolion a'r GIG)
- Technegydd arbenigol labordy (e.e. clybiau chwaraeon, ysbytai)
- Gwasanaethau Heddlu a'r Lluoedd Arfog
- Gwaith Gofal Cymdeithasol
- Ymgynghorydd
听