麻豆传媒高清版

Fy ngwlad:
Myfyrwyr Canolfan Anatomeg Ddynol Gogledd Cymru

Canolfan Anatomeg Ddynol Gogledd Cymru

Adnoddau o'r radd flaenaf ar gyfer addysg anatomegol. Mae ein harbenigwyr yn defnyddio deunydd celaneddol traddodiadol ochr yn ochr 芒 thechnoleg 3D arloesol i gynnig dealltwriaeth gynhwysfawr o anatomi dynol. Edrychwch ar ein cyrsiau a'n cyfleusterau i gychwyn ar eich taith o ddarganfyddiad anatomegol.

1. Trosolwg
2. Addysg Anatomegol: Grymuso Gweithwyr Proffesiynol y Dyfodol
3. Addysg Anatomegol Broffesiynol: Grymuso Arbenigedd
4. Cyfleusterau o'r Radd Flaenaf: Grymuso Addysg Anatomegol
5. Cysylltu

Mae Prifysgol Bangor yn gartref i adnoddau a chyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer addysg anatomeg ddynol. Mae ein harbenigwyr yn defnyddio archwiliadau anatomegol wrth addysgu myfyrwyr, yn ogystal 芒 gweithwyr proffesiynol meddygol a pherthynol i iechyd, am strwythur a swyddogaeth y corff dynol. Lleolir y ganolfan yn y Coleg Meddygaeth ac Iechyd ac mae鈥檔 cefnogi addysg anatomegol ar draws Ysgol Feddygol Gogledd Cymru a'r Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon. Yma hefyd mae cartref ysgol haf Visceral Mind sy鈥檔 adnabyddus ledled y byd am ddarparu cwrs preswyl wythnos o hyd mewn niwroanatomeg swyddogaethol.

Er bod llawer o sefydliadau eraill yn symud i ffwrdd o'r dull hwn, rydym ni yn cynnig dulliau dysgu traddodiadol yn defnyddio deunydd celaneddol, gan ein bod yn credu ei fod yn ddull hanfodol o ddarparu dealltwriaeth gynhwysfawr o anatomi topograffig, yn ogystal 芒 gwerthfawrogiad o amrywiadau anatomegol.

Yn ogystal, mae gennym lyfrgell helaeth o fodelau a phroraniadau corfforol 3D o ansawdd uchel ac rydym yn rhoi mynediad i'n myfyrwyr at adnodd dysgu anatomeg 3D blaengar y gellir ei ddefnyddio i rith-ddyrannu, yn ogystal ag amgylcheddau ac offer addysgu a dysgu rhithrealiti / realiti estynedig. Mae'r coleg hefyd yn gartref i uned delweddu cyseiniant magnetig 3T sy鈥檔 benodol ar gyfer addysgu ac ymchwil lle mae ymchwilwyr yn mapio anatomeg swyddogaethol in vivo.

Ym Mhrifysgol Bangor, mae myfyrwyr israddedig ac 么l-radd yn cychwyn ar daith gyffrous o ddarganfod, gan ddatgloi cymhlethdodau manwl anatomeg a'i dirgelion, gan gyfoethogi eu dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu i fod yn ddynol. Rydym yn eich gwahodd i archwilio ein cyrsiau a鈥檔 hadnoddau, a chychwyn ar daith addysgol drawsnewidiol gyda Chanolfan Anatomeg Ddynol Gogledd Cymru.

Yr Athro Guillaume Thierry mewn cot labordy wen gyda myfyriwr yn dal ymennydd ffug, saethiad llygad adar

Addysgu Graddau mewn cydweithrediad 芒 Chanolfan Anatomeg Ddynol Gogledd Cymru

Llun o'r ymennydd gan Yr Athro Oliver Turnbull
Llun o'r ymennydd gan Yr Athro Oliver Turnbull
Credit:Yr Athro Oliver Turnbull

Niwroanatomi Gweithredol: Gwella Sgiliau Diagnostig a Therapiwtig Cwrs Allanol

Mae Visceral Mind (Ysgol Haf) ym Mhrifysgol Bangor yn gwrs preswyl wythnos o hyd, a gydnabyddir yn rhyngwladol, sy'n cynnig ymdrochiad dwfn mewn niwroanatomi gweithredol. Mae'n cynnig cyfle unigryw i gyfranogwyr archwilio'r berthynas hynod ddiddorol rhwng yr ymennydd, y corff, ac ymddygiad, dan arweiniad cyfadran arbenigol ac yn defnyddio cyfleusterau o'r radd flaenaf. Mae'r rhaglen ddwys hon yn denu myfyrwyr a gweithwyr proffesiynol o bedwar ban byd, gan feithrin amgylchedd ysgogol ar gyfer dysgu a chydweithio.
Mae ein canolfan yn darparu cyrsiau allanol i ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol meddygol a pherthynol i iechyd:

ADDYSG ANATOMEGOL: GRYMUSO GWEITHWYR PROFFESIYNOL Y DYFODOL

CYFLEUSTERAU

Mae ein haddysgu yn cynnwys tiwtorialau rhyngweithiol gyda deunyddiau celaneddol, modelau ffisegol 3D o ansawdd uchel, a thechnoleg fodern, gan gynnwys y bwrdd dyrannu electronig , dyfeisiau rhith-realiti/realiti estynedig, sgriniau fideo 3D di-wydr ac apiau symudol. Felly mae myfyrwyr gwyddoniaeth a meddygaeth yn cael profiad ymarferol cynhwysfawr o gymhlethdodau anatomi dynol.

Mae鈥檙 ymchwil a wneir yn ein coleg yn cynnwys archwilio anatomi swyddogaethol, in vivo, gan ddefnyddio delweddu cyseiniant magnetig o'r radd flaenaf a thechnolegau anfewnwthiol i ysgogi'r ymennydd. Dysgwch fwy am Uned Ddelweddu Bangor.

Adeilad Brigantia, Bangor LL57 2AS

Cysylltu

Canolfan Anatomeg Ddynol Gogledd Cymru
Adeilad Brigantia
Ffordd Penrallt
Prifysgol Bangor LL57 2AS

anatomycentre@bangor.ac.uk

Cyd-gyfarwyddwyr
Dr. Richard J. Binney
Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon

Dr Leah Jones
Ysgol Feddygol Gogledd Cymru

Uwch Dechnegydd
Caroline Parkinson

Adeilad Brigantia, Bangor LL57 2AS