Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Bwriad y rhaglen yw rhoi'r wybodaeth gefndirol a'r sgiliau technegol i chi er mwyn eich galluogi i gynllunio, dadansoddi a gwerthuso ymchwil ym maes delweddu. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar dechnegau yn seiliedig ar ddelweddu cyseiniant magnetig (MRI), gan gynnwys MRI swyddogaethol, delweddu anatomegol, delweddu tensor trylediad, a sbectrosgopeg. Trafodir technegau delweddu gan gyfeirio at gymwysiadau biofeddygol perthnasol. Mae'r MSc yn cynnwys pedwar modiwl ar niwroddelweddu. Mae dau ohonynt yn canolbwyntio ar agweddau methodolegol. Mae'r ddau arall yn rhoi cyflwyniad manwl i dechnegau delweddu arbenigol a ddefnyddir i ddeall bioleg gweithrediad yr ymennydd ar adegau o iechyd a chlefyd.
Rhoddir pwyslais cryf ar ddatblygu eich sgiliau ymarferol, gan eich paratoi at waith pellach ym maes niwroddelweddu. Mewn labordy cyfrifiadurol pwrpasol, byddwch yn dysgu ac yn ymarfer technegau dadansoddi a delweddu. O dan oruchwyliaeth staff academaidd rhagorol, byddwch yn ymwneud 芒 chynllunio astudiaeth ddelweddu, i'w chynnal gan ddefnyddio'r sganiwr MRI 3T mewnol.
Cynnwys y Cwrs
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Niwro-ddelweddu.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Ariannu
There is a course specific scholarship of 拢2.5K available for this course awarded to the best submitted project proposal. More details on听all funding opportunities here.
Gofynion Mynediad
Mae'n rhaid meddu ar radd anrhydedd sengl neu gyd-anrhydedd mewn Seicoleg) neu ddisgyblaeth gysylltiedig (Cyfrifiadureg, Ffiseg, Mathemateg, Peirianneg, Bioleg, Gwyddorau Meddygol neu faes pwnc cysylltiedig), gydag o leiaf gradd dosbarth 2.i.
Rhoddir ystyriaeth unigol i fyfyrwyr rhyngwladol, ond rhaid dangos hyfedredd yn y Saesneg sy'n cyfateb i sg么r IELTS o 6.5 (heb unrhyw elfen yn is na 6.0) a bydd disgwyl i chi ddangos bod gennych gefndir academaidd addas ar gyfer y rhaglen.
听
Gyrfaoedd
Mae'r rhaglen yn arbennig o addas i'r canlynol:
- myfyrwyr sydd 芒 diddordeb mewn dilyn gyrfa academaidd ym maes niwroddelweddu
- myfyrwyr sydd eisiau swydd fel ymchwilydd mewn diwydiant neu labordy academaidd sy'n ymwneud ag ymchwil trosiadol
- gweithwyr meddygol proffesiynol, sydd eisiau datblygu sgiliau mewn maes technoleg ac ymchwil newydd
- myfyrwyr sydd 芒 chefndir mewn ffiseg, mathemateg neu wyddoniaeth gyfrifiadurol sydd eisiau mynd i faes niwrowyddoniaeth wybyddol neu glinigol
- myfyrwyr sydd 芒 chefndir mewn seicoleg neu fioleg sydd am wella eu sgiliau technegol ar gyfer gyrfa ym maes niwrowyddoniaeth.