Pam Nyrsio?
Mae pobl sy'n dewis gyrfa mewn nyrsio yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae nyrsio yn rhoi llawer o foddhad, yn newid ac yn tyfu'n gyson ac yn broffesiwn cyffrous. Mae nyrsys cofrestredig yn gweithio o fewn un neu fwy o bedwar maes; oedolyn, iechyd meddwl, anableddau dysgu neu blant. I fod yn gymwys i gofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth mae angen i chi astudio rhaglen radd sy'n arwain at gymhwyster gradd penodol ar gyfer y maes o'ch dewis. Ar ôl cofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth byddwch yn gallu bod yn aelod o'r tîm amlddisgyblaethol sy'n darparu gofal mewn partneriaeth â chleifion a'u teuluoedd ac ochr yn ochr â meddygon, therapyddion, fferyllwyr a chynorthwywyr gofal iechyd, mewn amryw o wahanol weithleoedd.
Pam Astudio Nyrsio?
Bydd y graddau Baglor Nyrsio a gynigir ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi'r  wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gynnig gofal nyrsio tosturiol ar sail tystiolaeth.Â
- Mae ein cyrsiau gradd Nyrsio Cyn-gofrestru yn arwain at ddyfarniad academaidd yn ogystal â chofrestru gyda'rÂ
- Mae bwrsariaethau a gyllidir gan y GIG, sy'n talu'r holl ffioedd dysgu ac yn rhoi cefnogaeth grant tuag at gostau byw, ar gael i fyfyrwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig.
- Mae gan ein staff ystod eang o brofiad clinigol cyfoes yn eu meysydd proffesiynol ac maent yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr iechyd lleol, yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i sicrhau bod eich dysgu o'r ansawdd uchaf.
- Arweinir ein haddysgu gan ymchwil, gyda chefnogaeth rhaglenni ymchwil o ansawdd uchel sy'n trawsnewid ansawdd a darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru ac yn rhyngwladol, gan sicrhau eich bod yn astudio'r theori ac ymarfer diweddaraf.
- Bydd hanner eich dysgu’n digwydd mewn amgylchedd clinigol – mae’r holl leoliadau mewn gweithleoedd modern gydag offer da ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar draws Gogledd Cymru.
- Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i astudio theori a chael profiad o ymarfer clinigol mewn sefyllfa ddwyieithog gan roi i chi'r sgiliau i ddarparu gofal clinigol a chymdeithasol mewn cyd-destun unigryw.
Pa bynnag faes nyrsio y byddwch yn ei ddewis byddwch yn treulio hanner eich amser yn dysgu'r  wyddoniaeth sy'n sylfaen i'ch maes ynghyd â gwybodaeth gyffredinol sy'n angenrheidiol i bob darpar nyrs. Byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth ddofn o'r sylfaen dystiolaeth sy'n sylfaen i rôl y nyrs. Mae nyrsys hefyd yn hyrwyddo iechyd ac yn helpu i gynnal iechyd a lles, a chyda gradd nyrsio o Fangor bydd gennych y sgiliau i gynorthwyo i newid bywydau pobl.Â
Byddwch yn rhoi theori ar waith trwy ymarfer dysgu ar leoliad mewn ystod o leoliadau ar draws Gogledd Cymru. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarfer a hyder trwy gyfrwng nifer o leoliadau clinigol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac yn elwa o ymarfer wedi'i efelychu ac addysg mewn sgiliau clinigol. Byddwch yn datblygu'r sgiliau a'r hyfedredd sydd eu hangen fel nyrs gofrestredig gyda chefnogaeth ragorol gan fentoriaid ymarfer sydd wedi'u hyfforddi i safon uchel ynghyd â staff y brifysgol.