麻豆传媒高清版

Fy ngwlad:
Fferyllydd yn cyflawni presgripsiwn meddygol

Fferylliaeth a Ffarmacoleg

Ydych chi eisiau dilyn gyrfa lle gallwch chi gael effaith gadarnhaol ar ofal iechyd a thriniaeth pobl? Mae Fferylliaeth a Ffarmacoleg yn cynnig cyfle i chi gael effaith ym myd cyffuriau meddyginiaethol.

Ar y dudalen hon:
Cewch eich ysbrydoli gan ein dewisiadau cwrs mewn Fferylliaeth a Ffarmacoleg
Gwnewch gais cyn 6yh ar Ddydd Mercher, 29 Ionawr 2025 i gychwyn eich cwrs ym Medi 2025

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Fferylliaeth a Ffarmacoleg?

Er bod Fferyllwyr a Ffarmacolegwyr yn gweithio gyda meddyginiaethau a chyffuriau mae eu rolau yn wahanol iawn felly hefyd ein cyrsiau. Yma gallwch gymharu'r cyrsiau a'r gyrfaoedd y gallant arwain atynt. Mae鈥檙 ddau faes yn cynnig gyrfaoedd gwerth chweil, ond bydd y llwybr y mae myfyrwyr yn ei ddilyn yn dibynnu ar a oes ganddynt fwy o ddiddordeb mewn ymarfer clinigol a rhyngweithio 芒 chleifion (Fferylliaeth) neu ddarganfyddiad gwyddonol ac ymchwil labordy (Ffarmacoleg).

Mae fferylliaeth yn broffesiwn gofal iechyd sy'n hyfforddi myfyrwyr i ddod yn fferyllwyr, sy'n rhagnodi, yn dosbarthu ac yn gyfrifol am ddefnyddio meddyginiaethau'n ddiogel ac yn effeithiol. Mae fferyllwyr yn gweithio'n uniongyrchol gyda chleifion, meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill i sicrhau bod meddyginiaethau'n cael eu defnyddio'n gywir, gan roi cyngor ar bresgripsiynau, dosau a sg卯l-effeithiau.

Er mwyn dod yn Fferyllydd bydd angen i chi wneud gradd MPharm, yna hyfforddiant blwyddyn sylfaen ac arholiad Cofrestru gyda'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC).Mae graddedigion fferylliaeth fel arfer yn dod yn fferyllwyr cymwys, gan weithio'n uniongyrchol gyda chleifion mewn ysbytai, fferyllfeydd cymunedol, neu'r diwydiant fferyllol, gan sicrhau defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau.

Mae athroniaeth gyffredinol rhaglen Fferylliaeth MPharm yn gosod y claf, a鈥檙 ffordd y mae fferyllydd yn gwasanaethu anghenion y claf, yn ganolog i brofiad dysgu鈥檙 myfyriwr fferylliaeth. Wrth flaenoriaethu gofal cleifion, meddyginiaethau, a lles cyffredinol, mae'r rhaglen yn rhoi sylfaen wyddonol gadarn i fferyllwyr y dyfodol i arwain eu penderfyniadau ymarferol. Bydd y rhaglen yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i fferyllydd y dyfodol ymarfer yn ddiogel ac yn foesegol o fewn yr amgylchedd rhagnodi annibynnol sy'n dod i'r amlwg.

Mae myfyrwyr fferylliaeth yn cael addysg sy'n canolbwyntio ar y claf. Mae myfyrwyr yn cymryd rhan mewn lleoliadau fferylliaeth go iawn ac amgylcheddau efelychiedig, ochr yn ochr 芒 gweithdai, tiwtorialau a darlithoedd. Mae'r cwricwlwm yn cynnwys dosbarthiadau labordy ac amrywiaeth o asesiadau, megis Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCEs), arholiadau, gwaith cwrs, a phortffolio myfyriol i wella sgiliau ymarferol a meddwl beirniadol.

Ffarmacoleg yw'r astudiaeth wyddonol o gyffuriau, sy'n canolbwyntio ar sut maent yn rhyngweithio 芒 systemau biolegol. Mae ffarmacolegwyr yn gweithio i ddeall sut mae cyffuriau'n cael eu datblygu, eu mecanweithiau gweithredu, sg卯l-effeithiau, a chymwysiadau therapiwtig posibl.

Gall ffarmacolegwyr fwynhau gyrfaoedd amrywiol iawn, yn aml mewn lleoliadau labordy, er bod llawer o gyfleoedd yn bodoli y tu allan i'r labordy. Mae llawer o ffarmacolegwyr yn dechrau ymchwil academaidd neu'n dod o hyd i rolau yn y diwydiannau fferyllol a biotechnoleg. Gall eu rolau hefyd ymestyn i gyfathrebu gwyddoniaeth ac ymgysylltu 芒'r cyhoedd, polisi gwyddoniaeth, a materion rheoleiddio. Yn ogystal, gall ffarmacolegwyr gyfrannu at ymchwil glinigol a gweithio mewn lleoliadau rheoleiddio, gan chwarae rhan hanfodol wrth werthuso a gweithredu triniaethau newydd.

Mae ffarmacoleg yn canolbwyntio ar astudio gweithredu cyffuriau, gan gynnwys ffarmacocineteg, ffarmacodynameg, a gwenwyneg. Mae'r rhaglen yn pwysleisio deall sut mae cyffuriau'n rhyngweithio 芒 systemau biolegol a'r effeithiau a g芒nt ar iechyd, gan ymgorffori gwybodaeth ddamcaniaethol a chryn dipyn o brofiad ymarferol mewn labordy.

Mae'r rhaglen Ffarmacoleg fel arfer yn BSc tair blynedd sy'n pwysleisio sylfaen wyddonol gref. Mae myfyrwyr yn cael nifer sylweddol o ddosbarthiadau labordy ar gyfer profiad ymarferol, wedi'u hategu gan ddarlithoedd, gweithdai a thiwtorialau. Mae asesiadau yn cynnwys arholiadau, gwaith cwrs, a gwerthusiadau ymarferol, gan sicrhau dealltwriaeth gynhwysfawr o'r pwnc. Mae cyfle hefyd i fyfyrwyr wneud blwyddyn leoliad neu flwyddyn dramor rhwng yr ail a'r drydedd flwyddyn.

Mae'r darlithwyr yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn arbenigwyr gyda chefndir rhyfeddol ac angerdd am eu pynciau unigol. Mae'r cyfleusterau ym mhrifysgol Bangor ymhlith y gorau a bu'n fraint cael mynediad i'r rhain a gweithio o fewn Canolfan Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin.

Rwyf wedi mwynhau bod ym Mangor yn fawr iawn ac yn caru awyrgylch y brifysgol. Mae'n brifysgol fach felly rydych chi'n dod i adnabod eich darlithwyr a'ch tiwtor personol ac yn y pen draw rydych chi'n mwynhau mynd i ddarlithoedd a chael yr awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar. Nid dim ond myfyriwr coll arall ydych chi - ond rydych chi'n aelod gwerthfawr ac wedi'ch gwthio hyd eithaf eich gallu gyda chefnogaeth anhygoel.

Georgia Marston,  Myfyriwr ffarmacoleg

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?听Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.

Sgwrsiwch efo'n myfyrwyr

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?听

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ffarmacoleg llwyddiannus ym Mangor?听
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Ffarmacoleg ym Mangor?听
  • Sut ydw i yn gwybod mai Ffarmacoleg ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi?听