Mae ein gwaith partneriaeth agos gyda phartneriaid ymarfer yn sicrhau bod ein rhaglen Baglor Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Bangor yn eich paratoi i fod yn fydwraig sy'n gallu darparu gofal bydwreigiaeth rhagorol. Cewch eich dysgu mewn sefydliad addysg uwch gyda profiad dysgu myfyrwyr o ansawdd uchel, mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol, gan addysgwyr bydwreigiaeth arbenigol a chan ymarferwyr profiadol yn ein sefydliadau partner dysgu ymarfer.
- Boddhad cyffredinol myfyrwyr Bydwreigiaeth yn 100% - Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2020Â
- Mae bwrsariaethau a gyllidir gan y GIG, sy'n talu'r holl ffioedd dysgu ac yn rhoi cefnogaeth grant tuag at gostau byw, ar gael i fyfyrwyr o bob rhan o'r Deyrnas Unedig.
- Mae ein cwrs Bydwreigiaeth wedi ei achredu gan UNICEF UK Baby Friendly Initiative.
- Cofrestru fel bydwragedd gyda'r .
- Mae 95% o fyfyrwyr Bydwreigiaeth yn mynd ymlaen i weithio neu astudio pellach (Unistats 2020)
- Mae gan ein staff ystod eang o brofiad clinigol cyfoes yn eu meysydd proffesiynol ac maent yn gweithio mewn partneriaeth â darparwyr iechyd lleol, yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i sicrhau bod eich dysgu o'r ansawdd uchaf.
- Rydym yn cynnal rhaglenni ymchwil blaenllaw ym maes gofal iechyd a chysylltiedig â meddygaeth sy'n trawsnewid ansawdd a darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru ac yn rhyngwladol, yn sicrhau eich bod yn astudio'r theori a'r ymarfer mwyaf cyfoes.
- Bydd tua hanner eich dysgu mewn amgylchedd clinigol – mae’r holl leoliadau mewn gweithleoedd modern gyda'r holl offer angenrheidiol.
- Bydd cyfleoedd i gael profiad o ymarfer dwyieithog yn rhai rhannau o'ch lleoliadau.
- Byddwch yn cael cyfle i ymgymryd â lleoliad dewisol yn ystod eich rhaglen gan eich galluogi i ehangu eich amrywiaeth o brofiadau
- Gellir astudio elfennau o'r cwrs ar ein campws yn Wrecsam, drws nesaf i Ysbyty Maelor Wrecsam