Mae bydwragedd yn aml yn disgrifio eu gwaith fel swydd 'freintiedig'. Mae eu swyddogaeth yn paratoi merched i esgor bywyd newydd yn eu gwneud yn bresenoldeb hanfodol yn ystod pob cam o'r beichiogrwydd, yr esgor a'r cyfnod 么l-enedigol cynnar.
Mae bydwragedd yn gweithio ym mhob lleoliad gofal iechyd; er enghraifft, yn uned famolaeth ysbyty cyffredinol mawr, mewn unedau mamolaeth annibynnol llai, mewn ysbytai mamolaeth preifat, mewn practis gr诺p, mewn canolfannau geni, gyda meddygon teulu ac yn y gymuned.
Mae'r rhan fwyaf o fydwragedd yn ymarfer yn y GIG, yn gweithio gyda bydwragedd eraill neu fel rhan o d卯m bach, gyda gweithwyr proffesiynol gofal iechyd eraill fel obstetregwyr, neonatolegwyr, anesthetyddion, meddygon teulu, ymwelwyr iechyd a staff cefnogi. Mae yna hefyd gr诺p bach o fydwragedd sy'n ymarfer o fewn cynlluniau menter gymdeithasol.
Ar 么l cofrestru, gall bydwragedd ddefnyddio eu cymhwyster i weithio mewn lleoliadau gofal iechyd eraill fel unedau gofal babanod arbennig. Mae rhai bydwragedd yn datblygu i fod yn arbenigwyr mewn meysydd fel diabetes neu iechyd y cyhoedd ac iechyd meddwl amenedigol. Mae cyfleoedd hefyd i weithio ym maes ymchwil ac addysg.
Gellir gweld bydwragedd yn ymarfer mewn sawl maes ac yn aml byddant yn mynd ymlaen i ddatblygu eu harbenigedd proffesiynol a'u haddysg i lefelau uwch.
Mae bydwragedd yn darparu gofal integredig sy'n canolbwyntio ar ferched, ac mae'n ofynnol iddynt weithio sifftiau dros saith diwrnod yr wythnos, yn cynnwys dyletswydd dydd a nos. Mae gan lawer o fydwragedd rotas ar alwad ac maent yn gweithio mewn ysbyty ac聽yn y gymuned mewn聽canolfannau geni, unedau dan arweiniad bydwragedd a chartrefi merched.聽