Gweithgareddau Arloesol Diweddar

Cydweithio ar ddyluniad yn trawsffurfio鈥檙 broses sganio fasgwlar

Datblygwyd stand clamp pwrpasol o ganlyniad i gydweithio llwyddiannus rhwng technegwyr ac academyddion yn Arloesi Pontio. Defnyddir y stand clamp yn awr yn y labordy ffisioleg gardiofasgwlaidd yn聽Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor.

Mae dyluniad penodol y stand clamp yn galluogi ymchwilwyr i sefydlogi鈥檙 trawsddygiadur uwchsain wrth wneud gwaith sganio fasgwlaidd. Mae鈥檔 helpu i wella cywirdeb y data a gynhyrchir yn sylweddol iawn.

Mae argraffu 3D yn cadw SEACAMS ar y blaen ym maes ymchwil a chynllunio offer m么r.

惭补别听, cangen o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor wedi bod yn cynhyrchu offer ar gyfer y m么r yn llwyddiannus am lawer o flynyddoedd. Mae eu cydweithio diweddar gydag Arloesi Pontio wedi eu galluogi i brototeipio eu cynnyrch gan ddefnyddio argraffu 3D am y tro cyntaf.

Eu her oedd dylunio ffr芒m i ddal offer casglu data acwstig ar uchder priodol uwchlaw gwely鈥檙 m么r. I ddechrau defnyddiodd t卯m SEACAMS feddalwedd CAD 3D nerthol i fodelu鈥檙 ffr芒m, ac yna gofyn i Arloesi Pontio gynhyrchu prototeip ar raddfa gan ddefnyddio argraffu 3D. Roedd yn golygu y gallai t卯m SEACAMS ystyried ac yna adolygu eu cynllun cyn gweithgynhyrchu.

Bydd cydweithio parhaus gydag Arloesi Pontio yn helpu i sicrhau bod SEACAMS a Phrifysgol Bangor yn parhau ar y blaen ym maes ymchwil a chynllunio offer m么r.

Hwb busnes i fusnes newydd meddygol ym Mangor

惭补别听聽sydd wedi eu lleoli yng ngogledd Cymru yn datblygu cynnyrch a dulliau arloesol meddygol. Diolch i Arloesi Pontio maent wedi gallu gwneud ymchwil a gwaith dylunio a oedd yn llwyr y tu hwnt i鈥檞 cyllideb o鈥檙 blaen.

Bu Pontio yn helpu聽聽i gynllunio, profi a phrototeipio dyfais endosgopi ar gyfer聽, am gyfran fechan o鈥檙 gost oedd yn eu hwynebu yn flaenorol. Mae UW Designs yn awr mewn sefyllfa i ddatblygu cynnyrch masnachol hyfyw eraill a chynyddu eu busnes.

Meddalwedd yn gwneud tripiau ysgol yn llawer haws

Mae Arloesi Pontio wedi cefnogi Semantise Ltd. yng ngogledd Cymru i ddatblygu meddalwedd a fydd yn helpu ysgolion i wella eu ffyrdd o reoli data yn aruthrol.

Bwriad yr ap聽聽yw lleihau鈥檔 aruthrol y cyfathrebu ar bapur rhwng yr ysgolion a rhieni, gan arbed arian ac amser gwerthfawr. Tyfodd Semantise, sydd wedi鈥檌 leoli ym Mrynrefail, o鈥檙 Ysgol Addysg ym Mhrifysgol Bangor.

It looks like you鈥檙e visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?