Rhoi syniadau ar waith
Mae ein gofod pwrpasol trawiadol yn gartref i’r dechnoleg ddiweddaraf. Mae hyn yn golygu y gallwn hwyluso prototeipio cynnyrch a gwasanaethau masnachol a rhoi syniadau hyfyw ar y farchnad yn gyflym.
Mae cyfleusterau unigryw Arloesi Pontio, y staff gwybodus a’r gwasanaethau cefnogi yn helpu i gau’r bwlch arloesi rhwng mentrau yng Nghymru, o ficro fusnesau i sefydliadau mawr.
Lle mae’r celfyddydau yn cwrdd â gwyddoniaeth
Mae ein henw yn adlewyrchu’r ffaith ein bod yn credu’n gryf bod y datblygiadau arloesol gorau yn cael eu harchwilio a’u datblygu ar draws nifer o ddisgyblaethau. Mae Arloesi Pontio yn fan lle caiff cydweithio agos rhwng y celfyddydau a gwyddoniaeth ei annog yn fawr.
Helpu i adeiladu economi gynaliadwy
Mae Arloesi Pontio wedi ei ymrwymo i ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau gwerth uchel a fydd yn helpu Cymru a gweddill y DU i gwrdd â’r her o gystadleuaeth gynyddol yn fyd-eang.
Credwn fod lefelau sgiliau uchel ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn gyfranwyr pwysig at sicrhau ffyniant a gobeithiwn y bydd Arloesi Pontio yn ysbrydoli rhagor o bobl ifanc ein rhanbarth i ymddiddori mewn pynciau STEM.
Ein hymrwymiad i’n cymuned
Mae Arloesi Pontio wedi ymrwymo i ddarparu cefnogaeth ddatblygu ragorol i bob math o fusnesau. Mae gennym bolisi ‘drws agored’ ac yn annog y gymuned gyfan i gymryd rhan a chydweithio.
Mae ein cyfleusterau arloesi blaengar wedi cael cymorth cyllid Cydgyfeiriant yr Undeb Ewropeaidd: ein nod cyffredin yw cefnogi datblygiad busnesau cryf a chynaliadwy yn y rhanbarth hwn.
Ìý
Mae’r enw ‘Pontio’ yn ymgorffori hanfod ac ethos ein canolfan newydd.