Cwynion
Rydym yn gobeithio na chewch achos i gwyno ynglÅ·n â Chanolfan Access Bangor na’i gwasanaethau ond os fydd gennych gwyn, byddwn yn gwneud ein gorau i ymdrin â’ch cwyn yn ddi-oed. Mae Canolfan Access Bangor yn dod o dan drefn gwyno Prifysgol Bangor, ac mae gennych yr hawl i ddefnyddio’r drefn honno ar unrhyw adeg.
Os oes gennych gwyn ynglŷn â Chanolfan Access Bangor:
- Cysylltwch â’r aelod o Ganolfan Access Bangor sy’n uniongyrchol gyfrifol am y sefyllfa. Os ydych yn ansicr o enw’r unigolyn hwnnw, cysylltwch â’r Ganolfan Access trwy e-bost access_centre@bangor.ac.uk neu ffôn: 01248 388101.
Eglurwch eich cwyn a gofynnwch am ateb penodol i'ch cwyn.
- Os nad yw hyn yn datrys y mater mewn modd boddhaol, llenwch ffurflen gwyno’r Ganolfan, sydd ar gael i’w llawr lwytho isod neu gan dderbynfa’r Ganolfan, ac yna ei hanfon at reolwr y Ganolfan. Dylech ddisgwyl cael ateb cyn pen pum diwrnod gwaith.
- Os nad yw’r ateb yn foddhaol, gwnaiff gydlynydd y Ganolfan roi copi o drefn gwyno berthnasol Prifysgol Bangor i chi (sylwer bod trefn wahanol ar gyfer fyfyrwyr Prifysgol Bangor, ymwelwyr a Phrifysgol Bangor a myfyrwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth) a rhoi gwybodaeth i chi ynglÅ·n â’r camau y gallwch eu cymryd a’r ffynonellau cymorth sydd ar gael i chi dan y drefn honno.