Y broses o wneud cais am LMA
Cam Un - Gwneud cais am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl
Bydd angen i chi gwblhau'r ffurflen gais am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, a'i hanfon at eich Corff Cyllido (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru) ynghyd 芒 chopi o'ch tystiolaeth feddygol neu adroddiad diagnostig.
Cam Dau - Archebu Apwyntiad
Unwaith y bydd eich Corff Cyllido wedi derbyn y dystiolaeth, byddant yn anfon llythyr a/neu e-bost atoch yn cadarnhau eich bod yn gymwys i gael y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl. Cyn gynted ag y byddwch wedi derbyn cadarnhad, cysylltwch 芒 ni i drefnu apwyntiad Asesiad Anghenion Astudio. Ein nod yw gweld pob myfyriwr mewn llai na 15 diwrnod gwaith, ac fe welir y rhan fwyaf o fyfyrwyr o fewn wythnos i archebu apwyntiad.
Cyn y gallwn ni gadarnhau eich apwyntiad, bydd arnom angen copi o'r llythyr yn nodi eich bod yn gymwys, ynghyd 芒 chopi o'r dystiolaeth y gwnaethoch chi ei hanfon wrth wneud cais am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl.
Cam Tri - Dod i'r apwyntiad
Yn ystod yr apwyntiad byddwn yn edrych yn fanwl ar eich cwrs ac ar strategaethau a rhwystrau rhag dysgu sy'n gysylltiedig ag anabledd. Byddwn yn trafod opsiynau perthnasol o ran cefnogaeth, ac yn dangos technoleg gynorthwyol briodol (e.e. meddalwedd). Yna byddwn yn gallu gwneud argymhellion penodol a phwrpasol yngl欧n 芒'r hyn y gellir defnyddio'r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl i'w ariannu. Cesglir yr holl wybodaeth i gynhyrchu Adroddiad Asesu Anghenion a gaiff ei anfon i'r corff cyllido o fewn 10 diwrnod gwaith i'r apwyntiad.
Cam Pedwar - Cytuno ar y gefnogaeth sydd wedi ei hargymell
Unwaith y bydd yr adroddiad yn cael ei anfon at y Corff Cyllido (a chopi atoch chi), bydd eich Corff Cyllido yn ystyried yr argymhellion, ac ar 么l cytuno, dylent anfon e-bost neu ysgrifennu atoch gyda manylion cyswllt y darparwyr cymorth (e.e. darparwyr offer a hyfforddiant).
Cam Pump - Trefnu'r gefnogaeth
Unwaith y byddwch wedi cael cadarnhad y bydd y Corff Cyllido yn ariannu'r gefnogaeth sydd wedi ei hargymell, bydd angen i chi gysylltu 芒'r darparwyr perthnasol i drefnu'r gefnogaeth. Os ydych chi wedi cytuno yn ystod apwyntiad yr Asesiad Anghenion Astudio, gallwn anfon y cadarnhad at y darparwyr ar eich rhan.
Gwybodaeth Ychwanegol
Unwaith y byddwch wedi cael asesiad o’ch anghenion, byddwn yn anelu at gael eich adroddiad yn barod ichi ei ddarllen o fewn pythefnos.
Gallwn roi mwy o gymorth a chyfarpar yn ddiweddarach yn eich cwrs, os bydd angen. Bydd angen i’r Ganolfan Access drafod yr angen ychwanegol â chi, a bydd yn ysgrifennu at yr Corff Cyllido, gan ofyn am unrhyw eitemau ychwanegol y bo eu hangen.
Mae'r Ganolfan Access yn gweithio i'r amseroedd canlynol:
Beth fyddwn ni’n ei wneud | Graddfa amser |
---|---|
Cynnig apwyntiad chi ar gyfer Asesiad Anghenion unwaith y byddwn wedi derbyn y papurau angenrheidiol (fel rheol cadarnhad Corff Cyllido a naill ai tystiolaeth feddygol neu adroddiad Seicolegydd Addysg)... |
...cyn gynted ag y bydd y wybodaeth hon gennym a'n bod mewn cysylltiad uniongyrchol 芒 chi |
Cynnig apwyntiad i chi ar gyfer Asesiad Anghenion o fewn ... |
... y 15 diwrnod gwaith nesaf |
Ar 么l i chi gael eich asesiad, byddwn yn anfon copi drafft o’r adroddiad atoch i’w ddarllen (a chytuno 芒’r cynnwys drwy lenwi’r ffurflen amgaeedig) ... | ... o fewn 10 diwrnod gwaith o’ch apwyntiad asesiad |
Cytuno a gwneud unrhyw newidiadau i’ch adroddiad Asesiad unwaith y byddwn wedi clywed oddi wrthych ... | ...聽 o fewn 2 ddiwrnod gwaith |
Anfon copi terfynol eich adroddiad Asesiad Anghenion at eich corff cyllido ... | ... o fewn 1 diwrnod gwaith |
Anfon copi terfynol o’ch adroddiad Asesiad Anghenion atoch ... | ... o fewn 3 diwrnod gwaith |
ER GWYBODAETH: Ni chodir ffi ar fyfyrwyr am eu hasesiad, ond efallai y gofynnir iddynt wneud cyfraniad at gost peth o'r gefnogaeth a argymhellir.
Codir ffi cynhwysol ar eich corff cyllido (e.e. Cyllid Myfyrwyr Cymru) gyda'r corff hwnnw'n talu’r ffi.
Mae'r ffi yn cynnwys:
Yr asesiad.
-
Gwaith dilynol (gan gynnwys addasiadau i gefnogi) yn ystod y cwrs presennol.
-
Asesiad o anableddau ychwanegol a all gael eu cymeradwyo gan eich corff cyllido yn ystod y cwrs presennol.
Gall y corff cyllido ddewis amrywio'r hyn mae'r ffi yn ei gynnwys fesul achos. Bydd y ganolfan yn mynd rhagddo fel y cyfarwyddir mewn amgylchiadau o'r fath.
.