Arolwg Hynt Graddedigion
Croeso i dudalen Arolwg Hynt Graddedigion.
Mae’r dudalen hon yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr Arolwg Hynt Graddedigion.Ìý Caiff y dudalen ei diweddaru’n rheolaidd, felly dewch yn ôl gyson.
Beth yw’r Arolwg Hynt Graddedigion?
Mae’r arolwg Hynt Graddedigion yn arolwg cenedlaethol sy’n casglu gwybodaeth am weithgareddau a safbwyntiau graddedigion 15 mis ar ôl iddynt orffen eu hastudiaethau.Ìý Mae’r arolwg yn cael ei reoli a’i gynnal gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).
Gwahoddir yr holl raddedigion sydd wedi cwblhau cwrs ym Mhrifysgol Bangor i gymryd rhan yn yr arolwg.Ìý Mae eich cyfranogiad yn yr arolwg yn bwysig gan y bydd eich ymatebion yn helpu ein myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr i gael cipolwg ar gyrchfannau a datblygiad gyrfaoedd yn ogystal â’n helpu ni i werthuso, cynllunio a hyrwyddo ein cyrsiau, ein gwasanaethau a’n cyfleusterau.Ìý
Mae’r arolwg yn bwysig ar raddfa genedlaethol hefyd gan ei fod yn caniatáu i wneuthurwyr polisi, elusennau, newyddiadurwyr, ymchwilwyr ac eraill i ddeall y sector addysg uwch a chyflwr y farchnad lafur i raddedigion.
Pryd byddaf yn cymryd rhan yn yr arolwg?
Gofynnir i chi lenwi’r arolwg tua pymtheg mis ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau.
Sut byddaf yn cymryd rhan yn yr arolwg?
Cewch neges e-bost oddi wrth HESA yn eich gwahodd i lenwi’r arolwg ar-lein.Ìý Efallai y bydd HESA yn eich ffonio ac yn gofyn ichi gwblhau’r arolwg dros y ffôn.Ìý Os na ellir cysylltu â chi, efallai y bydd HESA yn ceisio cael y wybodaeth gan drydydd parti, er enghraifft aelod o’r teulu.
Sut caiff fy sylwadau eu defnyddio?
Cyn i chi ddechrau’r arolwg, bydd HESA yn darparu gwybodaeth fanwl am sut y bydd eich data yn cael ei brosesu, pwy fydd yn ei dderbyn, a sut byddant yn ei ddefnyddio.
Bydd HESA yn rhannu eich atebion gyda ni a byddwn yn eu defnyddio at ddibenion gwerthuso, cynllunio, marchnata a recriwtio.
Beth os nad ydw i eisiau cymryd rhan yn yr arolwg?
Nid yw’n orfodol i chi lenwi’r arolwg. ÌýPan fydd HESA yn cysylltu â chi, gallwch ddewis peidio â chymryd rhan ac ni fyddwn yn cysylltu â chi eto.Ìý Dim ond trwy HESA y gallwch ddewis peidio â chymryd rhan yn yr Arolwg Hynt Graddedigion.Ìý
Ond rydym yn gobeithio’n fawr iawn y byddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg oherwydd hoffem wybod mwy am eich gweithgareddau a safbwyntiau ar ôl graddio.Ìý Bydd y wybodaeth a roddwch yn ein helpu i lunio ein cyrsiau, gwasanaethau a chyfleusterau at y dyfodol.
Sut ydw i’n sicrhau fy mod yn cael fy ngwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg?
Byddwn yn rhoi eich manylion cyswllt i HESA.Ìý Y cyfan mae angen i chi ei wneud yw gwneud yn siŵr bod gennym eich manylion cyswllt cywir - cyfeiriad e-bost dilys yn arbennig.Ìý
I ddiweddaru eich manylion cyswllt, cysylltwch â: hyntgraddedigion@bangor.ac.uk ÌýÌý
Beth ddylwn ei wneud os nad wyf yn meddwl bod gennych fy manylion cyswllt cywir?
Gallwch gysylltu â ni unrhyw bryd hyd at wythnos cyn i’r arolwg gau i roi eich manylion cyswllt newydd.Ìý Byddwn yn rhoi’r wybodaeth hon i HESA. I ddiweddaru eich manylion cyswllt, cysylltwch â: hyntgraddedigion@bangor.ac.ukÌýÌý Ìý
Beth ddylwn ei wneud os nad wyf eisiau rhoi fy manylion cyswllt?
Mae’n ofynnol i ni rannu eich manylion cyswllt gyda HESA er mwyn cynnal yr Arolwg Hynt Graddedigion. Eglurwyd hyn i chi pan oeddech yn ymuno a chofrestru.
Bydd HESA yn defnyddio eich manylion cyswllt dim ond i anfon yr arolwg.Ìý Fel y nodwyd uchod, nid yw’n orfodol i chi lenwi’r arolwg. Pan fydd HESA yn cysylltu â chi, gallwch ddewis peidio â chymryd rhan ac ni fyddwn yn cysylltu â chi eto.
Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn trin a defnyddio’ch gwybodaeth bersonol ar gael yn y Datganiad Diogelu Data Myfyrwyr.
Beth yw HESA?
Mae HESA yn cefnogi hyrwyddo’r sector addysg uwch trwy gasglu a chyhoeddi data amserol a dibynadwy am y sector.
Ble alla i gael rhagor o wybodaeth?
Byddwn yn rhoi rhagor o wybodaeth am yr arolwg ychydig cyn eich gwahodd i’w lenwi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill ynghylch HESA a diogelu data, gweler adran diogelu data Ìýneu cysylltwch â Swyddog Diogelu Data HESA:
E-bost: ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý data.protection@hesa.ac.uk Ìý
Ffôn: ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý 01242 211135
Cyfeiriad: ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý HESA, 95 Promenade, Cheltenham, GL50 1H
Mae gwybodaeth bellach am ddiogelu data ym Mhrifysgol Bangor ar gael yma.