Uned Amserlennu
Mae’r amserlenni yn deillio o ddata cofrestru swyddogol, os yw eich amserlen yn anghywir neu ar goll, cysylltwch gyda’r Tim Gweinyddiaeth Myfyrwyr i wirio manylion eich modiwlau.
Mi ddylai eich amserlen bersonol fod ar ar gael oddeutu 1–2 diwrnodau gwaith or ol i fanylion eich modiwlau gael eu diweddaru ar y system.
Bydd amserlen Semester 1 yn cael ei chyhoeddi ar 30ain Awst 2024 a Semester 2 ar 6 Rhagfyr 2024. Os oes gennych broblemau efo myBangor neu calendr personol cystylltwch gyda Gwasanaethau TG.
Yr Uned Amserlennu
Mae’r Uned Amserlennu yn neuadd Reichel a’r uned hon sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r amserlen i is-raddedigion, cynnal data strwythur cyrsiau yn Banner (a ddefnyddir mewn ) ac archebu’r holl ystafelloedd dysgu canolog yn ystod y tymor (yn cynnwys yr wythnos groeso a’r wythnosau arholiadau).
Pob Ymholiadau e-bostiwch: Amserlennu@bangor.ac.uk
Gwybodaeth ynglyn â’r arholiadau ac amserlenni arholiadau.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r arholiadau cysylltwch â arholiadau@bangor.ac.uk
Archebu Ystafelloedd
Mae’r Uned Amserlennu yn gyfrifol am archebu’r ystafelloedd dysgu yn ystod yr wythnos (tan 6yh) o fewn y tymor academaidd. Mae’r Uned Amserlennu yn bwcio’r ystafelloedd yma.
I weld pa ystafelloedd sydd ar gael edrychwch ar y Calendr Ystafelloedd yn
I weld manylion ystafelloedd cliciwch yma.
Ystafelloedd Cyfrifiadurol:
Yn ystod gwyliau Prifysgol, ar ôl 6yh ac ar y penwythnos, gellir archebu’r rhain drwy Outlook:
- Prif Adeilad y Celfyddydau CR1 & CR2
- Stryd y Deon 319 & 207
Cyfarwyddiadau Sylfaenol
Cliciwch yma am gyfarwyddiadau i ystafelloedd yn ardal y Prif Adeilad.
I archebu ystafelloedd yn Fron Heulog a Wrecsam cysylltwch â health.admin@bangor.ac.uk.
I archebu ystafelloedd ar safle’r Normal (heblaw y rhai a restrir isod) cysylltwch â addysg.admin@bangor.ac.uk
Cyfnod | Cysylltiad |
---|---|
Wythnos Groeso | Uned Amserlennu |
Semester 1 | Uned Amserlennu |
Gwyliau Nadolig | Swyddfa Gynhadledd / Ysgolion |
Arholiadau Gaeaf | Uned Amserlennu |
Semester 2 | Uned Amserlennu |
Gwyliau Pasg | Swyddfa Gynhadledd / Ysgolion |
Arholiadau Haf | Uned Amserlennu |
Gwyliau Haf | Swyddfa Gynhadledd / Ysgolion |
Ebostiwch Uned Amserlennu, Swyddfa Gynhadledd gyda unrhyw ymholiadau archebu, fel y bo’n briodol.
Os dymunwch holi am ystafell y tu allan i oriau academaidd neu ystafell adran cysylltwch drwy’r cyfeiriadau isod:
Safle | Cysylltiad |
---|---|
Adeilad y Celfyddydau/Pontio PL2/5 | Swyddfa Gynhadledd |
Ystafell Gynhadledd Hen Goleg Adeilad Alun | Swyddfa Gynhadledd |
Adeiliad Brigantia | Ysgol Seicoleg |
Adeilad Brambell | Alison Evans |
Thoday | Alison Evans |
Wheldon | Swyddfa Gynhadledd |
Stryd y Deon | Karen Evans |
Safle Normal | central.bookings@bangor.ac.uk |
Ystafelloedd George | Mark Chitty |