Sut ydw i'n gwneud cais am 'Lythyr Cadarnhau Cymhwyster'?
Os bydd arnoch angen cadarnhad o'ch cymhwyster i ddibenion cyflogaeth / astudio pellach / gwneud cais am fisa, gall y Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr roi llythyr swyddogol i chi yn cadarnhau eich cymhwyster.
Bydd hyn yn cynnwys cadarnhad o'r canlynol:
- Enw llawn
- Dyddiad dechrau a gorffen y cofrestriad
- Pwnc / Maes astudio
- Teitl y cymhwyster
- Dyddiad y cymhwyster
- Canlyniad terfynol (a dosbarth (os yn berthnasol))
- Enw'r sefydliad sy'n dyfarnu
I gael llythyr swyddogol yn cadarnhau cymhwyster llenwch y ffurflen gais sydd ynghlwm a’i dychwelyd.
Yn unol 芒 darpariaethau’r Ddeddf Gwarchod Data ni allwn dderbyn ceisiadau drwy e-bost neu ar y ff么n. Ni allwn roi unrhyw wybodaeth i drydydd parti (yn cynnwys teulu neu berthnasau) heb ganiat芒d ysgrifenedig yr unigolyn dan sylw.
Os oes gennych unrhyw ofynion ychwanegol nodwch hynny yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol' ar y ffurflen.
Sylwer bod rhaid i chi lofnodi'r ffurflen gyda'ch llaw, felly dylid ei dychwelyd drwy’r post, ffacs neu fel atodiad wedi’i sganio at student-admin@bangor.ac.uk
Gan amlaf bydd y ceisiadau yn cael eu prosesu o fewn deg diwrnod gwaith, ond gall cymwysterau a gwblhawyd cyn 2002 gymryd mwy o amser gan nad yw'r cofnodion ar ffurf electronig.聽