Sut rydw i'n gwneud cais am gopi o fy nhystysgrif israddedig neu
么濒-谤补诲诲?
Cymhwyster Prifysgol Bangor
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am wneud cais am dystysgrifau newydd Prifysgol Bangor ar 么l clicio yma.
Cymhwyster Prifysgol Cymru
Cewch ragor o wybodaeth ar .
Sylwer bod rhaid anfon pob cais am dystysgrifau newydd a Datganiadau Academaidd Prifysgol Cymru yn uniongyrchol i Brifysgol Cymru (nid i Brifysgol Bangor). Dylech wirio eich cofnod academaidd i gadarnhau pwy yw'r corff dyfarnu, neu darllenwch y canllawiau isod. Os nad ydych yn si诺r, cysylltwch 芒'r Swyddfa Gweinyddiaeth Myfyrwyr /student-administration/enquiry.php.en a fydd yn gallu gwirio a yw'n radd Prifysgol Bangor neu radd Prifysgol Cymru.
Prifysgol Bangor neu Brifysgol Cymru?
Bydd unrhyw fyfyriwr a raddiodd cyn 1 Awst 2009, wedi cael gradd Prifysgol Cymru.
Roedd pob myfyriwr a ddechreuodd eu cwrs (neu a gofrestrodd) cyn 1 Medi 2009, ac roeddent i fod i raddio ar 么l 31 Gorffennaf 2009, yn cael dewis fel rhan o'r broses ail-gadarnhau presenoldeb blynyddol a oeddent am dderbyn cymhwyster gan Brifysgol Cymru neu Brifysgol Bangor. Os yw'r meini prawf uchod yn berthnasol i chi ac nid ydych yn si诺r pa radd a ddyfarnwyd i chi, cysylltwch 芒'r Swyddfa Cofnodion Myfyrwyr i gadarnhau hyn cyn cyflwyno eich cais am dystysgrifau newydd.
Bydd unrhyw fyfyriwr a dderbyniwyd i'r brifysgol ac a gofrestrodd am y tro cyntaf o 1 Medi 2009 ymlaen yn derbyn gradd Prifysgol Bangor.