Cyngor am Ddiogelwch y Myfyrwyr a'r Staff
Yn gyffredinol rydym yn byw ac yn gweithio mewn amgylchedd sy'n gymharol ddiogel. Er hynny, mae'n bwysig cofio bod troseddau'n gallu ddigwydd a'ch bod yn ystyried hynny mewn perthynas 芒'ch diogelwch personol ac o ran diogelu eich eiddo.聽 Dyma rai awgrymiadau:
- Sylwch ar eich amgylchedd chi a'r hyn sydd o'ch cwmpas chi
- Cadwch at lwybrau cyhoeddus a pheidiwch 芒 cherdded ar eich pen ei hun ar 么l iddi dywyllu nac mewn ardaloedd diarffordd neu ynysig
- Cariwch larwm diogelwch personol聽
- Gwyliwch rhag i rywun roi cyffur yn eich diod. Peidiwch byth 芒 gadael eich diod heb fod rhywun yn edrych ar ei 么l.
- Clowch eich ystafell wely neu'ch swyddfa pan nad ydych yno
- Peidiwch byth 芒 gadael eich eiddo heb oruchwyliaeth mewn ystafelloedd cyfarfod, theatrau darlithio, labordai, llyfrgelloedd nac unrhyw fannau cymunedol
- Marciwch eich eiddo
- Clowch eich beic yn saff a rhowch eich cod post arno
- Parciwch yn rhywle gyda digon o olau, cadwch y pethau gwerthfawr allan o'r golwg a sicrhewch fod y car dan glo pan fyddwch yn ei adael
- Defnyddiwch loceri mewn llefydd chwaraeon a pheidiwch 芒 mynd 芒 phethau gwerthfawr gyda chi
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch 芒 ni - byddem yn falch o glywed gennych chi.