Soo Vinnicombe - Swyddog Projectau Strategol
Mae Soo yn gyfrifol am gynllunio busnes ar gyfer projectau strategol y brifysgol sy'n cael eu datblygu o dan Fargen Twf y Gogledd. Mae Soo yn arwain y broses gynllunio busnes benodol sy'n ofynnol gan y cyllidwyr ac yn darparu arweinyddiaeth a chefnogaeth arbenigol yn y broses hon. Mae Soo yn cydlynu'r broses ddatblygu, gan sicrhau'r wybodaeth hanfodol sy'n ofynnol a chydlynu'r gwaith hwnnw gyda'r arweinwyr academaidd a'r uwch swyddogion cyfrifol. Mae Soo yn gweithio'n agos gyda'r corff cyllido ac ymgynghorwyr arbenigol sy'n cefnogi'r broses ac yn cefnogi鈥檙 gwaith o ysgrifennu cynigion ar gyfer projectau. Ar hyn o bryd mae portffolio Soo yn cynnwys holl ddisgyblaethau Gwyddorau鈥檙 Amgylchedd a Pheirianneg.