Strategaeth, Projectau a Chynllunio
Rydym yn darparu arweinyddiaeth, cydgysylltiad a chefnogaeth i’r Brifysgol ym meysydd projectau a phartneriaethau strategol, cynllunio strategaeth a busnes, gwybodaeth fusnes, a ffurflenni data allanol.
Trefnir darpariaeth gwasanaethau ar draws tri tîm:
Strategaeth a chynllunio busnes
Datblygu a monitro cynllun strategol y Brifysgol a dangosyddion perfformiad allweddol; cefnogaeth ar gyfer cynllunio busnes ar draws Ysgolion academaidd a Gwasanaethau Proffesiynol; cynllunio adnoddau a niferoedd myfyrwyr; cyswllt â HEFCW ar faterion strategol; rheoli risg; rheoli prosesau REF y Brifysgol.
Datblygu a gweithredu gwybodaeth rheoli a mewnwelediad, gan gynnwys datblygu system Gwybodaeth Busnes y Brifysgol (PowerBI) a galluoedd meincnodi; dadansoddiad o’r farchnad; dadansoddiad o arolygon y Brifysgol; dadansoddiad o ddata perfformiad allanol a thablau cynghrair; ceisiadau gwybodaeth ad hoc.
Partneriaethau a phrojectau strategol
Datblygu projectau strategol, cefnogi rhaglenni a phrojectau gyda nawdd y Pwyllgor Gweithredu i ddisgrifio, lleoli a chynllunio projectau trawsnewidiol sy’n cyflawni yn erbyn strategaeth y Brifysgol. Mae’r tîm yn cefnogi sefyllfaoedd strategol, broceriaeth, datblygu projectau, cynllunio busnes, cyflawni projectau, ymgysylltu â chyllidwyr ac ymgorffori. Fel rhan o swyddogaeth ehangach y tîm rydym hefyd yn arwain ac yn cefnogi ymgysylltiad strategol â chyrff rhanbarthol, diwydiant a rhanddeiliaid cymunedol gan weithio’n agos gyda’r tîm Gweithredu.
Data corfforaethol
Ffurflenni data statudol i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA – Myfyrwyr, Staff, Canlyniadau Graddedigion, Unistats); ffurflenni data Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW); rheoli data Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC); rheoli codi ffioedd dysgu ac ad-daliadau.