Michael Wilson, Prif Swyddog Strategaeth a Chynllunio
Mae Michael yn aelod o Fwrdd Gweithredol y Brifysgol ac yn gyfrifol am reoli sawl maes penodol gan gynnwys rheolaeth gyffredinol ar gynllunio strategol a busnes, sicrhau risg, gwybodaeth fusnes, data corfforaethol, cefnogi ymchwil ac effaith, a phrojectau a phartneriaethau strategol. Mae Michael yn arwain y gwaith o baratoi a monitro cynllun strategol y Brifysgol, gan ddarparu adroddiadau monitro i'r Bwrdd Gweithredol a Chyngor y Brifysgol. Mae Michael yn arwain y gwaith o ddatblygu fframwaith cynllunio busnes ledled y brifysgol yn unol 芒 blaenoriaethau strategol, gan gynnwys datblygu a mabwysiadu mesurau perfformiad. Michael yw cadeirydd y Pwyllgor Risg Strategol, mae’n darparu cefnogaeth ysgrifenyddol ar gyfer y Gr诺p Cyflawni - Cymeradwyo a Monitro Strategol y Cwricwlwm, ac mae’n aelod o’r Pwyllgor Ystadau a Digidol a’r Pwyllgor Marchnata a Recriwtio Myfyrwyr.