Bryn Jones, Uwch Swyddog (Partneriaethau Strategol ac Arloesi)
Bryn sy’n gyfrifol am ddatblygu partneriaethau a phrojectau gyda ffocws penodol ar arloesi, effaith ac ymgysylltu 芒 busnesau. Mae Bryn yn cefnogi ymgysylltiad y Brifysgol 芒 fforymau datblygu economaidd a busnes ledled y rhanbarth gan sicrhau ymgysylltiad strategol, cydnabod cyfraniad y Brifysgol a darparu llwyfan ar gyfer datblygu cyfleoedd pellach. Mae Bryn yn cyfrannu at arweinyddiaeth o ran ymgysylltiad y Brifysgol 芒 Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ym maes arloesi ac yn cefnogi’r gwaith o sicrhau fod y strategaeth honno’n dwyn gwraidd yn y Brifysgol. Rhan o swydd Bryn yw datblygu ymgysylltiad y Brifysgol 芒 Bargen Twf y Gogledd, gan gefnogi cynllunio busnes, ymgysylltu rhanbarthol a chyd-destun rhanbarthol. Mae Bryn yn cynrychioli'r Brifysgol ar amrywiaeth o fforymau rhanbarthol.