Andrea Jones, Uwch Swyddog Gwybodaeth Fusnes
Andrea sy’n gyfrifol am y t卯m Gwybodaeth Fusnes ac mae'n chwarae rhan arweiniol wrth ddatblygu atebion integredig o ran gwybodaeth fusnes, gan oruchwylio’r gwaith o ddatblygu a defnyddio system Gwybodaeth Fusnes PowerBI y Brifysgol, yn ogystal 芒 chynhyrchion data allanol megis HEIDI Plus.聽 Mae Andrea’n cydweithio'n agos gyda staff allweddol i sicrhau dull integredig o ddarparu gwybodaeth fusnes, gan ddarparu arbenigedd mewn dehongli, dadansoddi a delweddu data’n effeithiol i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ar draws amrywiaeth eang o bynciau.聽 Mae Andrea hefyd yn cyfrannu at ddatblygu a gweithredu'r broses gynllunio ar gyfer y Brifysgol, gan ddarparu cefnogaeth a chyngor mewn perthynas 芒 chynllunio strategol a chynllunio busnes, yn darparu cymeradwyaeth strategol ar gyfer rhaglenni newydd Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas, ac yn cefnogi’r gwaith o lunio dangosyddion perfformiad allweddol y Brifysgol a dadansoddi tablau cynghrair. Mae Andrea yn aelod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, a Phwyllgor Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y Gwasanaethau Proffesiynol.