Swyddfa'r Wasg
²Ñ²¹±ð’r Canllawiau ar weithio gyda’r cyfryngauyn cynnig egwyddorion arweiniol am pryd, sut a pham y dylech ymgysylltu â’r cyfryngau newyddion, gan gynnwys pa gymorth sydd ar gael gan swyddfa’r wasg.
Mae rhagor o wybodaeth ddefnyddiol isod:
Mae'r Cyfryngau’n gallu bod yn ddefnyddiol i greu ymwybyddiaeth am y Brifysgol a'i gwaith. Mae posibiliadau niferus o ran cyhoeddi storïau, gan gynnwys:
- papurau wythnosol lleol a'r papurau rhanbarthol dyddiol, sy'n bwysig o ran rhoi gwybod i'r gymuned leol am weithgareddau'r Brifysgol
- papurau cenedlaethol
- cylchgronau ar gyfer cynulleidfaoedd penodol
- blogiau a sianelau cyfryngau cymdeithasol
- rhaglenni teledu a radio
- safleoedd newyddion ar y we (gweler The Conversation isod)
Mae Swyddfa’r Wasg y Brifysgol yn darparu newyddion a gwasanaethau ymwybyddiaeth o'r cyfryngau. Fel aelodau staff, gallwn eich helpu i hyrwyddo a chyhoeddi storïau a gweithgareddau eich ysgol drwy nifer o gyfryngau gwahanol. Cysylltwch â Swyddfa’r Wasg am gymorth i gynllunio'ch stori. Gorau po gyntaf y gwnewch chi adael i ni wybod am storïau er mwyn cael gwell cyfle o gael sylw'r wasg - gweler PDF ‘Gwneud Argraff’.
Beth yw deunydd stori dda?
Mae storïau llwyddiannus yn y cyfryngau yn dweud mwy wrthym amdanom ein hunain a'r ffordd yr ydym yn byw ein bywydau: yn gyffredinol mae ganddynt ddiddordeb dynol gydag elfen 'newydd'. Mae cyfleoedd i greu cysylltiadau cyhoeddus da yn cynnig eu hunain mewn llawer o wahanol sefyllfaoedd:
Ymchwil
Mae'n bosibl creu storïau am waith neu gynlluniau ymchwil:
- Pan gaiff grantiau ymchwil eu dyfarnu; gall sylw cynnar yn y cyfryngau fod yn ddefnyddiol os oes angen cynnwys y cyhoedd yn eich ymchwil neu’r project (gan gofio y gallai gormod o fanylion ragfarnu’r canlyniadau). (Gweler ‘A all 'gofalwyr lleyg' roi mwy o gymorth ar ddiwedd oes?’)
- Os bydd yr ymchwil yn cynnwys arbrofion diddorol neu anarferol a allai hawlio sylw'r cyhoedd, neu a fyddai'n gwneud stori weledol dda. (Gweler ‘Disgyblion ysgol yn ymgolli mewn celf mewn project Dementia a’r Dychymyg’)
- Pan fydd yr ymchwil wedi'i chwblhau - er y dylid cael sêl bendith gan y corff ariannu a’r/neu’r partneriaid cyn mynd at y wasg. (Gweler ‘Taith wyddonol 'Urgency' i asesu marwolaeth riffiau cwrel a achoswyd gan yr hinsawdd’)
Newyddion Myfyrwyr
Mae'n bosibl creu storïau am brojectau myfyrwyr unigol a allai fod yn anarferol neu'n ddiddorol, neu am lwyddiannau gan fyfyrwyr unigol. (Gweler ‘Fideo feiral gan fyfyrwyr o Fangor’)
Gweithgareddau eraill
Os caiff eich papur ei dderbyn gan gyfnodolyn academaidd pwysig rhowch wybod i Swyddog y Wasg  i drafod y posibilrwydd o gyhoeddi datganiad i'r wasg.
Bydd Swyddog y Wasg yn falch o gael gwybod am ddulliau addysgu arloesol, unrhyw ddigwyddiadau o bwys sy'n cael eu trefnu gan eich ysgol neu'ch adran, ac unrhyw ymwelwyr nodedig â'r ysgol.
Cyfleoedd Eraill
Mae yn ffynhonnell annibynnol o newyddion a barn sy’n cael eu casglu o’r gymuned ymchwil academaidd a’i ddarparu’n uniongyrchol i'r cyhoedd. Mae eu trwydded greadigol gyffredin yn galluogi cyfryngau eraill i rannu eu cynnwys, gan ddod ag ef i sylw cynulleidfa ehangach.
Mae eu tîm o olygyddion proffesiynol yn gweithio gyda'r Brifysgol ac arbenigwyr sefydliad ymchwil i ddatgloi eu gwybodaeth ar gyfer ei defnyddio gan y cyhoedd yn ehangach. Os oes gennych syniad am erthygl yr ydych am ei hysgrifennu ar gyfer The Conversation, cysylltwch â’r Swyddog Cefnogi Ymchwil yn eich Coleg neu â Swyddog y Wasg, neu cysylltwch â Golygydd Cymru The Conversation, neu priodol.
Mae’r Brifysgol ar hyn o bryd yn rhoi erthygl 500 gair i dudalen Universities y Daily Post bob dydd Mawrth ac mae darnau yn y Western Mail wedi’u  trefnu. Mae’n bosib hefyd cynnig syniadau am 'draethawd' i'r papur.
Cysylltiadau â'r Gymuned a Busnesau
Mae'r Brifysgol bob amser yn awyddus i hybu ei chysylltiadau â busnesau a'r gymuned leol. Gall projectau sy'n ymwneud â busnes lleol, grŵp cymunedol neu unrhyw waith arloesol gyda diwydiant (nad yw'n gyfrinachol), fod o ddiddordeb i wahanol gyfryngau.
Newyddion Mewnol
Bydd rhai eitemau newyddion yn fwy perthnasol i staff a/neu fyfyrwyr yn hytrach nag i'r cyfryngau cyffredinol. Mae modd rhoi’r math yma o newyddion ar FyMangor neu ar yr Hysbysfwrdd Staff. Gall eich cyswllt marchnata o fewn eich ysgol/adran eich helpu gyda hyn.
Cyfleoedd i Dynnu Lluniau
Mae’n ddigon posibl y bydd projectau myfyrwyr yn gyfle i gael ffotograffau diddorol - gellid eu defnyddio yn lleol neu ym mröydd y myfyrwyr dan sylw. Gall unrhyw brojectau ymchwil anarferol sydd â chynnwys gweledol cryf hefyd fod o ddiddordeb i wahanol gyfryngau. Gall y mathau hyn o straeon, sydd â delweddau’n rhan bwysig ohonynt, fod yn well ar gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol - cysylltwch â Swyddfa'r Wasg ymlaen llaw i drafod. Efallai y bydd rhai amgylchiadau’n cyfiawnhau llogi ffotograffydd proffesiynol; fodd bynnag, os yw'n briodol, gellid defnyddio ffonau clyfar modern/tabledi hefyd - gweler PDF ‘Cynghorion ar dynnu lluniau da.
Cysylltiadau â'r Cyfryngau
Datganiadau i'r Wasg yw'r dull sylfaenol ar gyfer trosglwyddo gwybodaeth i newyddiadurwyr. Os ydych o'r farn bod gennych bwnc addas ar gyfer datganiad i'r wasg, rhowch wybod i Swyddog y Wasg drwy ffonio neu anfon e-bost gan gynnwys y pwyntiau sylfaenol – gweler PDF ‘Cyngor ar ysgrifennu datganiad i’r wasg’.
Ar ôl derbyn datganiad i'r wasg, mae'n bosibl y bydd newyddiadurwr yn dymuno cael rhagor o fanylion neu siarad â'r sawl sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r pwnc. Gan hynny, dylai'r unigolyn hwnnw fod yn barod i neilltuo amser i siarad â newyddiadurwyr. Bydd hyn yn golygu ychwanegu gwybodaeth bellach at stori a gaiff ei hargraffu neu gymryd rhan mewn cyfweliad am y pwnc ar y radio neu'r teledu – gweler PDF ‘Cyngor ar siarad gyda’r cyfryngau’.
Mae coronafeirws, am y tro o leiaf, wedi gwneud cyfweliadau wyneb yn wyneb yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol. Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i’ch helpu i baratoi ar gyfer cyfweliad o’ch ystafell fyw neu eich ystafell wely sbâr.
Barn Arbenigol
Yn aml, bydd ar newyddiadurwyr angen arbenigwyr ar ystod eang o faterion a byddant yn cysylltu â Swyddfa'r Wasg yn aml i holi a oes gennym arbenigwyr mewn maes penodol. Mae rhoi barn arbenigol o'r fath yn gallu bod yn werthfawr iawn i roi cyhoeddusrwydd i’r Brifysgol, a chadarnhau ein safle fel prifysgol "o'r radd flaenaf".
Yn aml bydd newyddiadurwyr yn cysylltu â staff yn uniongyrchol drwy ddod ar draws eich manylion ac arbenigedd pwnc ar-lein. Os byddwch yn cymryd rhan mewn cyfweliad ar y radio neu'r teledu, anfonwch y manylion canlynol at Swyddfa’r Wasg:
- Enw
- Ysgol/Adran
- Pwnc
- Rhaglen a gorsaf neu sianel
- Dyddiad y cyfweliad/darllediad (os yw'n hysbys).
- Eich cyfeiriad Twitter (os oes gennych gyfrif) er mwyn i ni hybu eich cyfweliad ar ein cyfryngau cymdeithasol
Os byddwch yn gweld stori yn torri yn y newyddion, sy'n gysylltiedig â'r maes yr ydych yn arbenigo ynddo, mae'n bosibl eich cynnig eich hun fel arbenigwr. Os byddwch yn teimlo y gellwch wneud hyn, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg i drafod.
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau y byddwch yn eu cael sy'n ceisio sylwadau am faterion sy'n gysylltiedig â'r Brifysgol gyfan at Swyddfa'r Wasg yn gyntaf oll.
Ac yn olaf…
Nid yw'r uchod yn rhestr gynhwysfawr ond mae’n rhoi syniad o'r ffordd o hyrwyddo eich gwaith.
Cynigir cwrs byr, Cyflwyniad i Weithio gyda'r Cyfryngau, drwy raglen Datblygu Staff Adnoddau Dynol i staff sydd eisiau dysgu mwy am hyrwyddo’u gwaith.