Croeso i Marchnata, Recriwtio a Chyfathrebu
Mae adran Marchnata, Recriwtio a Chyfathrebu Prifysgol Bangor yn gyfrifol am ystod eang o weithgareddau marchnata a chyfathrebu.
Cyswllt ag Ysgolion a Digwyddiadau
Mae ein T卯m Cyswllt Addysg yn gyfrifol am drefnu Diwrnodau Agored y Brifysgol a Dyddiau Ymweld i Ymgeiswyr UCAS, sy'n derbyn miloedd o ymwelwyr i gampws y Brifysgol. Maent yn trefnu gweithgareddau Cyswllt ag Ysgolion ac Ehangu Cyfranogiad ac yn cynrychioli'r Brifysgol mewn ffeiri addysg uwch ledled y DU ac Ewrop.
Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus
Mae ein hadran Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus yn cynnwys swyddfa'r Wasg a Materion Cyhoeddus a'r T卯m Cyfathrebu, sy'n rheoli cyfrifon cyfryngau cymdeithasol y Brifysgol.
Recriwtio a Marchnata y DU
Yr sy’n arwain y prif weithgareddau recriwtio a marchnata sydd wedi ei anelu at ddarpar fyfyrwyr yn y Deyrnas Unedig.
Digidol a'r We
Mae ein t卯m marchnata digidol a'r we yn gweithio'n agos gyda thimau gwe eraill yn y gwasanaethau TG i sicrhau bod y wefan yn gyfredol ac yn cynnig y wybodaeth ddiweddaraf am ein cyrsiau a'n gweithgareddau ymchwil, yn ogystal 芒 rhoi gwybodaeth werthfawr i ddarpar fyfyrwyr ynghylch byw ac astudio ym Mhrifysgol Bangor. Mae ein gwefan BangorTV a'n yn darparu cynnwys fideo sydd ar gael i fyfyrwyr ar hyd a lled y byd.