Datblygu Gyrfa
²Ñ²¹±ð’r Brifysgol yn darparu ystod eang o gyfleoedd datblygu a chefnogaeth i staff.
Datblygiad proffesiynol:
Mentoring:
Mae Prifysgol Bangor wedi datblygu Cynlluniau Mentora Academaidd i ddarparu proses lle gall aelod staff gael cyngor, arweiniad ac anogaeth ynglŷn â’u gwaith a datblygiad eu gyrfa. Mae mentora yn ymyriad defnyddiol iawn i gefnogi datblygiad proffesiynol a gyrfa drwy helpu staff i ystyried eu gwaith a’u cynnydd, a chynllunio datblygiad proffesiynol a gyrfa mewn ffordd sy’n amserol a phenodol i’w hanghenion.
Adolygu Datblygu Perfformiad:
Ymgeisio am Hyrwyddo:
Rhwydweithio:
- Nod Menywod Cymru ym meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yw amlygu a mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n wynebu menywod sy’n gweithio yn y meysydd hyn. Mae’n dod â’r bobl hynny sy’n gweithio i roi newid ar waith yn y sector ynghyd, a’r sawl sy’n gweithio i greu awyrgylch cadarnhaol lle mae menywod a merched yn gallu ffynnu yn eu gyrfaoedd.
- – Rhwydwaith, cymuned ac ymgyrch fyd-eang yw ‘1 Million Women in STEM’ sy’n darparu modelau rôl benywaidd gweladwy mewn STEM i’r genhedlaeth nesaf o ferched, trwy rannu eu straeon personol eu hunain.
Cyllid:
- ²Ñ²¹±ð’r Gwasanaeth Cymorth Integredig Ymchwil ac Effaith (IRIS) yn darparu gwybodaeth am gyfleoedd ariannu a chymorth a chyngor gyda cheisiadau am gyllid (cyswllt research-support@bangor.ac.uk).
- Mae ‘’ yn cynnig cymrodoriaethau i’r rhai sy’n dychwelyd i yrfaoedd ymchwil ar ôl dwy flynedd neu fwy am reswm teuluol, gofalgar neu iechyd. Cynigir cymrodoriaethau ym mhob maes ymchwil mewn Prifysgolion a Sefydliadau Ymchwil.
- Mae Gwobrau Rhyngwladol yn cydnabod ac yn cefnogi menywod blaenllaw mewn gwyddoniaeth ledled y byd.