Sefydliadau Trwyddedig Prifysgol - Y Ddeddf Meinweoedd Dynol
Caniatawyd trwydded i'r Brifysgol o dan Adran 16 (2) (e) (ii) Deddf Meinweoedd Dynol 2004 ('y Ddeddf'). Mae’r drwydded yn awdurdodi storio deunydd perthnasol at y dibenion rhestredig canlynol:
- Sefydlu, yn dilyn marwolaeth person, effeithiolrwydd unrhyw gyffur neu driniaeth arall a roddwyd iddynt
- Darganfod gwybodaeth wyddonol neu feddygol am berson byw neu farw a allai fod yn berthnasol i unrhyw berson arall (gan gynnwys person yn y dyfodol)
- Arddangos yn gyhoeddus
- Ymchwil yn gysylltiedig ag anhwylderau, neu weithrediad y corff dynol
- Archwiliad clinigol
- Addysg neu hyfforddiant yn ymwneud ag iechyd dynol
- Asesu perfformiad
- Monitro iechyd y cyhoedd
- Sicrhau ansawdd
(mae'r Brifysgol wedi'i thrwyddedu ar gyfer Anatomeg - rhif trwydded 12546)